Dyddiad yr Adroddiad

23/04/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202408824

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am ei bod yn anhapus â’r hyn roedd Cyngor Caerdydd (“y Cyngor”) wedi’i wneud ynglŷn â lleithder a llwydni yn ei heiddo. Dywedodd Ms A er bod y Cyngor wedi gwneud rhywfaint o waith, roedd arogl llwydni o hyd i fyny’r grisiau.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi ymweld â’r eiddo ar sawl achlysur ac roedd wedi dweud bod angen gosod ffaniau echdynnu yng nghegin ac ystafell ymolchi Ms A. Roedd y gwaith wedi’i drefnu ar gyfer Ebrill 2025. Penderfynodd yr Ombwdsmon gan fod y gwaith blaenorol wedi’i wneud roedd yn bwysig bod problemau Ms A yn cael eu datys. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi diweddariad i Ms A o fewn 1 mis ar ôl cwblhau’r gwaith ym mis Ebrill 2025, cynnal ymchwiliad i’r arogl llwydni ac egluro i Ms A a fyddai angen gwneud rhagor o waith.