Dyddiad yr Adroddiad

15/04/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202402082

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Honnwyd bod yr Aelod, wrth wneud sylwadau penodol i’r wasg, yn dilyn penderfyniad a wnaeth Pwyllgor Safonau’r Cyngor ynghylch ei ymddygiad proffesiynol, wedi methu â dilyn y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau Awdurdodau Lleol. Honnwyd yn benodol, er bod gan yr Aelod ryddid barn wleidyddol, ei fod wedi methu â chydbwyso ei hawl â hawliau eraill i gael eu hamddiffyn rhag sylwadau diangen, a allai niweidio eu henw da a’u gallu i gyflawni eu dyletswyddau yn ddirwystr, a heb ystyried pwysigrwydd peidio â thanseilio hyder y cyhoedd mewn democratiaeth leol yn ehangach.

Penderfynom roi’r gorau i’n hymchwiliad, gan nad oedd bellach yn gymesur nac er budd y cyhoedd i ymchwilio ymhellach, yng ngoleuni’r gydnabyddiaeth a’r edifeirwch a ddangoswyd wedi hynny gan yr Aelod mewn achosion cysylltiedig. Dywedodd yr Aelod na fyddai’n gwneud yr un peth eto, o dan yr un amgylchiadau.