Cyflwyniad

Mae tai cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu rheoli gan Gynghorau a chymdeithasau tai, y cyfeirir atynt weithiau fel landlordiaid cymunedol. Rhaid iddynt fod â pholisi ysgrifenedig yn egluro sut y byddant yn cynnig eu tai, drwy ystyried anghenion person. Gelwir hyn yn bolisi dyraniadau.

Mae gofynion cyfreithiol mwy llym ar y Cyngor, e.e. mae rhai pobl y mae’n rhaid i’r Cyngor roi blaenoriaeth resymol iddynt gan gynnwys: pobl ddigartref; pobl sy’n byw mewn tai wedi eu gorlenwi neu sy’n anaddas; pobl sydd ag anghenion meddygol neu anableddau arbennig. Mae hyn hefyd yn berthnasol i drosglwyddo.

Gall cymdeithasau tai fod yn fwy hyblyg o ran i bwy y maent yn cynnig llety iddynt, e.e. gallant wrthod cynnig tŷ i chi os oes arnoch ddyledion rhent i landlord arall.

Gall Cynghorau a Chymdeithasau Tai gynnig llety i bobl sy’n gymwys yn unig. Efallai na fydd pobl sy’n destun rheolaeth mewnfudo neu sydd wedi ymddwyn yn annerbyniol yn ystod tenantiaeth dreiddgar yn gymwys i gael eiddo.

Bydd polisi’r Cyngor neu’r gymdeithas dai yn egluro sut y bydd yn penderfynu pwy sy’n cael cynnig tŷ yn gyntaf, e.e. cynllun pwyntiau; cynllun bandiau / cwotâu; neu system fidio am dai arbennig.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Gallwn ni:

  • edrych i weld a ddeliwyd yn briodol â’ch cais am dŷ;
  • edrych i weld a yw’r Cyngor neu’r gymdeithas dai wedi cymhwyso eu polisi i’ch cais am dŷ yn gywir, e.e. a ydych yn y band cywir;
  • edrych i weld a ddywedodd y Cyngor neu’r gymdeithas dai wrthych sut y deliodd â’ch cais am dŷ, e.e. a yw wedi anfon llythyr atoch gyda manylion unrhyw bwyntiau a roddwyd i chi;
  • edrych i weld a wnaeth y Cyngor neu’r gymdeithas dai oedi wrth ddelio â newidiadau yn eich sefyllfa ar ôl cael gwybod gennych, e.e. lle gofynnwyd i chi adael eich cartref;
  • edrych i weld pam y cafodd eich cais efallai ei ohirio, e.e. a yw’r Cyngor wedi dilyn y weithdrefn gywir os mai eich ymddygiad oedd y rheswm dros ohirio eich cais.

 

Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud

Ni allwn ni:

  • orfodi’r Cyngor / Cymdeithas Dai i roi eiddo i chi, neu unrhyw eiddo arbennig sydd ei eisiau arnoch.
  • newid penderfyniad a wnaed yn briodol ynghylch eich cais am dŷ.

 

Materion i gadw mewn cof

Nid oes digon o gartrefi i bawb sydd eisiau un.

Efallai y bydd y polisi’n cyfyngu ar faint o gynigion y gellir eu gwneud ichi neu gyfyngu ar yr ardaloedd y gallwch eu dewis ar eich cais am dŷ.

 

Gwybodaeth bellach

Efallai y byddwch am ystyried cysylltu â’r mudiadau canlynol am gyngor:

Shelter Cymru sy’n rhoi cyngor a chymorth annibynnol a di-dâl ar dai. Gallwch eu ffonio ar 08000 495 495 neu cysylltu gyda nhw yn https://www.sheltercymru.org.uk.

Cyngor ar Bopeth Cymru sy’n rhoi cyngor a chymorth annibynnol a di-dâl ar ystod o broblemau (gan gynnwys tai). Gallwch gysylltu â nhw yn www.citizensadvice.org.uk (a dewis opsiwn tudalen ‘Cymru’) a chofnodi eich cod post i gael manylion ar sut i gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol agosaf.

Efallai y bydd eich Aelod Cynulliad lleol yn gallu cynnig cyngor a chymorth hefyd.

 

 

Cysylltwch â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203.

 

Hawdd ei Ddarllen