Cyflwyniad

Mae gan yr Awdurdod Lleol (ALl), fel rhan o’r Cyngor, ddyletswydd cyffredinol i wneud trefniadau i addysgu plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Er y gellir fel arfer cwrdd ag anghenion plentyn yn yr ysgol heb i’r ALl ymyrryd, weithiau bydd yr Awdurdod yn paratoi datganiad o anghenion dysgu ychwanegol.

Efallai y byddwn yn ymchwilio i gwynion gan rieni bod yr ALl wedi methu â darparu ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol eu plentyn.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Byddwn yn gallu:

  • edrych ar unrhyw oedi yn cyflawni asesiad o anghenion dysgu ychwanegol plentyn, neu yn darparu datganiad o’r anghenion hynny;
  • edrych i weld a wnaeth yr ALl ddilyn y rheolau o ran asesu anghenion a, lle bo angen, wrth ddarparu datganiad;
  • asesu a oedd oedi neu fethiant i ddarparu cymorth yn unol â’r datganiad.

 

Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud

Ni fyddwn yn gallu:

  • cyflawni ein hasesiad ein hunain o anghenion y plentyn;
  • gorfodi’r Awdurdod Lleol i ddarparu datganiad o anghenion dysgu ychwanegol os yw’r Awdurdod yn ystyried nad oes angen un;
  • dweud wrth yr ALl beth i’w roi yn y datganiad.

 

Materion i gadw mewn cof

Os yw’r ALl yn gwrthod trefnu i asesu anghenion dysgu ychwanegol eich plentyn, neu’n gwrthod darparu datganiad wedyn, gallwch apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru. Gallwch hefyd apelio i’r Tribiwnlys os nad ydych yn hapus â’r hyn y mae’r ALl wedi’i roi yn y datganiad. Felly, ni fyddwn yn edrych ar unrhyw ran o’ch cwyn sy’n ymwneud â’r materion hyn.

Os ydym yn cadarnhau (yn cytuno) gyda’ch cwyn, efallai y byddwn yn gwneud argymhellion i’r ALl ynghylch beth ddylai ei wneud. Gall hyn gynnwys argymell bod yr ALl yn gwneud taliad i chi fel y gallwch dalu’n breifat am gymorth ychwanegol i’ch plentyn.

 

Gwybodaeth bellach

Mae’ r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer Cymru, a gwybodaeth ddefnyddiol arall, ar gael o dan yr adran addysg ar wefan Llywodraeth y Cynulliad yn www.wales.gov.uk

Mae gwybodaeth, cyngor a chymorth hefyd ar gael oddi wrth Snap Cymru yn www.snapcymru.org, neu gan eich ALl lleol.

Am fwy o wybodaeth am Dribiwnlys Addysg Cymru ewch i’ w gwefan yn: Croeso i | Tribiwnlys Addysg Cymru neu ffoniwch eu llinell gymorth ar 0300 025 9800.

Mae gan Gynghrair Anghenion Ychwanegol y Trydydd Sector, sy’n cael ei hwyluso gan Plant yng Nghymru, hyfforddiant ac adnoddau ar gael ar ei gwefan: Children in Wales | Cynghrair Anghenion Ychwanegol y Trydydd Sector

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203.