Mae’r garreg filltir bwysig hon yn cryfhau cysondeb ac atebolrwydd wrth ymdrin â chwynion ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Rydym wedi cyrraedd carreg filltir yn ein gwaith i wella gwasanaethau cyhoeddus, gyda phob cymdeithas tai yng Nghymru bellach yn gweithredu o dan ein Safonau Cwynion.
Mae’r cyflawniad hwn yn golygu y gall tenantiaid tai cymdeithasol ledled Cymru ddisgwyl dull mwy cyson wrth godi pryderon neu wneud cwyn. Dylai tenantiaid gael gwybodaeth glir am sut i wneud cwyn, beth i’w ddisgwyl gan y broses, a sut i gysylltu â ni os ydynt yn parhau i fod yn anfodlon.
Mae’r Awdurdod Safonau Cwynion, a sefydlwyd o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus ledled Cymru i wella’r ffordd y caiff cwynion eu trin drwy safonau cyffredin, hyfforddiant a chanllawiau. Ei nod yw helpu i sicrhau bod cwynion yn cael eu trin yn deg, yn gyson ac yn effeithiol, tra bod sefydliadau’n dysgu o adborth ac yn gwella gwasanaethau.
Mae ymestyn y Safonau Cwynion i gwmpasu pob cymdeithas dai yn nodi cwblhau cam arwyddocaol o’r Rhaglen Safonau Cwynion. Mae hyn yn golygu bod pob awdurdod lleol, bwrdd iechyd, ymddiriedolaeth y GIG a chymdeithas dai yng Nghymru bellach yn gweithredu o dan y Safonau Cwynion. Mae sefydliadau sy’n gweithredu o dan y Safonau Cwynion yn cyfrif am oddeutu 85% o’r holl gwynion newydd am wasanaethau cyhoeddus a ddaw i ni. Mae’r garreg filltir hon yn gam arall tuag at ddull mwy cydgysylltiedig a chyson o ymdrin â chwynion ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru, gan helpu i sicrhau bod pobl yn derbyn safonau gwasanaeth tebyg, ni waeth pa gorff cyhoeddus y maent yn delio ag ef.
Wrth roi ei sylwadau ar y garreg filltir, dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
“Mae cyrraedd y pwynt lle mae pob cymdeithas tai yng Nghymru yn gweithredu o dan ein Safonau Cwynion yn garreg filltir bwysig ac yn gam sylweddol ymlaen i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Pan fydd pethau’n mynd o chwith, mae pobl yn haeddu proses gwyno sy’n glir, yn deg ac yn hawdd ei dilyn. Mae'r Safonau Cwynion yn helpu i ddarparu'r cysondeb hwnnw, gan roi mwy o hyder i bobl y bydd eu pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif a'u trin yn briodol.
Mae ymdrin yn dda â chwynion hefyd o fudd i gymdeithasau tai. Mae cwynion ac adborth yn rhoi dealltwriaeth werthfawr o brofiadau tenantiaid, gan helpu sefydliadau i unioni pethau, nodi cyfleoedd i wella a chryfhau'r gwasanaethau y maent yn eu darparu.
Rydym wedi ein calonogi gan yr ymrwymiad a ddangoswyd gan gymdeithasau tai ledled Cymru ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’n gilydd i gefnogi safonau uchel wrth ymdrin â chwynion.
Gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd a chymdeithasau tai bellach yn gweithredu o dan y Safonau Cwynion, mae oddeutu 85% o’r cwynion newydd a dderbyniwn yn ymwneud â sefydliadau sydd o fewn cwmpas y fframwaith. Mae hyn yn gam sylweddol tuag at ddarparu profiad mwy cyson i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.”