Heddiw, rydym yn agor ymgynghoriad Cyhoeddus ar ein Cynllun Strategol ar Gydraddoldeb newydd.

Roedd ein Cynllun Cydraddoldeb blaenorol yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 2023 a 2026. Rydym nawr yn adolygu ein hamcanion cydraddoldeb a’r camau rydym yn bwriadu eu cymryd o dan ein Cynllun Cydraddoldeb rhwng 2026 a 2029. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb drafft wedi cael ei ddatblygu yn unol â’n dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Fodd bynnag, mae hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad dwfn a diwyro i gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wnawn. Mae’r Cynllun Cydraddoldeb arfaethedig yn alinio â’n Cynllun Strategol newydd ar gyfer 2026-29, ac yn cefnogi’r gwaith o’i gyflawni, a’i genhadaeth i gael effaith gadarnhaol ar bobl a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru

Rydym yn croesawu pob safbwynt ar ein Cynllun Cydraddoldeb drafft. Rydym yn croesawu sylwadau gan y canlynol yn arbennig:

• pobl sy’n defnyddio, sydd wedi defnyddio, neu a allai fod angen defnyddio ein gwasanaeth

• pobl a chymunedau a allai wynebu rhwystrau rhag cael mynediad at brosesau cwyno

• sefydliadau sy’n cynghori, sy’n cefnogi neu sy’n cynrychioli pobl â nodweddion gwarchodedig

• sefydliadau trydydd sector ac eiriolwyr

• cyrff cyhoeddus a phobl sy’n gweithio mewn gwasanaethau ymdrin â chwynion

• unrhyw un sydd â diddordeb mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yng Nghymru.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 24 Medi.