Rydym yn cyhoeddi ein Cynllun Strategol ar gyfer 2026–2029 heddiw, sy’n nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y tair blynedd nesaf ac ein huchelgais i ddarparu gwasanaeth cryfach gyda gwell effaith i bobl Cymru.
Mae’r Cynllun newydd wedi’i lunio gan dystiolaeth a mewnwelediadau o bob rhan o’r sefydliad, ynghyd ag adborth a gasglwyd yn ystod ein hymgynghoriad cyhoeddus. Mae’n ymateb i gyfleoedd a heriau allweddol, gan gynnwys y galw cynyddol am ein gwasanaeth, yr angen i wella mynediad i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, a’r pwysigrwydd o ddefnyddio data, offer digidol a thechnoleg arloesol i gryfhau effaith.
Mae’r Cynllun Strategol yn nodi rhaglen waith uchelgeisiol sy’n seiliedig ar bedwar Nod Strategol, gan ganolbwyntio ar:
- cyflawni cyfiawnder sy’n cael effaith gadarnhaol i bobl yng Nghymru.
- dylanwadu ar welliant systematig ledled gwasanaethau cyhoeddus a chefnogi safonau uchel o ymddygiad mewn llywodraeth leol.
- cryfhau mynediad ac effaith i’r sawl sydd angen ein gwasanaeth fwyaf.
- sicrhau ein bod yn sefydliad gwydn, ystwyth ac atebol.
Mae’r Cynllun yn rhoi pwyslais cryf ar gipio a chyfleu effaith ein gwaith. Mae hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd hygyrchedd, tegwch, gwaith allgymorth, gwell defnydd o ddata a’r defnydd cyfrifol o ddeallusrwydd artiffisial a thechnoleg arall.
Wrth gyhoeddi’r Cynllun, dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
Wrth i ni nodi ugain mlynedd o wasanaeth yr Ombwdsmon i Gymru, mae’r Cynllun Strategol hwn yn gosod cyfeiriad clir ar gyfer dyfodol ein swyddfa. Mae'n adlewyrchu sut mae ein rôl wedi datblygu, yr heriau rydyn ni'n gwybod y mae pobl yn eu hwynebu pan fydd pethau'n mynd o chwith mewn gwasanaethau cyhoeddus, a'n huchelgais i ddarparu gwasanaeth cryfach, mwy rhagweithiol a mwy effeithiol i bobl Cymru.
Bydd ein ffocws dros y tair blynedd nesaf ar wella mynediad at gyfiawnder, defnyddio ein pwerau a'n data yn fwy effeithiol, gwrando ar brofiadau byw, a gweithio gydag eraill i sbarduno gwelliant ar draws gwasanaethau cyhoeddus a safonau ymddygiad mewn llywodraeth leol. Yn anad dim, mae'r Cynllun hwn yn ymwneud â gwneud gwahaniaeth go iawn i unigolion, i wasanaethau cyhoeddus ac i fywyd democrataidd yng Nghymru.