Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a’r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd i wella sut mae’r ddau sefydliad yn cydweithio ar gwynion sy’n ymwneud ag asiantau gorfodi.
Y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio’r diwydiant gorfodi i sicrhau bod pawb sy’n destun camau gorfodi yng Nghymru a Lloegr yn cael eu trin yn deg. Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i gwynion am anghyfiawnder a achosir gan gamweinyddu neu fethiant gwasanaeth, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â chwmnïau ac asiantau gorfodi sy’n cael eu defnyddio neu eu contractio gan awdurdodau lleol yng Nghymru.
O dan y cytundeb, bydd y sefydliadau’n cydweithredu’n agosach ac yn rhannu gwybodaeth yn briodol ac yn ddiogel, gyda’r nod o’i gwneud yn haws i bobl gael eu cyfeirio at y sefydliad iawn wrth wneud cwynion. Y bwriad yw y bydd y cydweithrediad hwn yn helpu i wella mynediad at gyfiawnder i unigolion sy’n poeni am weithgarwch gorfodi ac yn cefnogi safonau gwell ar draws y sector yng Nghymru. Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn hefyd yn adlewyrchu eu cred gyffredin y gall cyfathrebu amserol a rhannu gwybodaeth yn effeithiol helpu i sbarduno gwelliannau mewn arferion gorfodi.
Dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
“Rydym yn gwybod ei bod hi’n gallu bod yn anodd mynd drwy’r broses gwyno, yn enwedig i bobl sydd eisoes dan straen camau gorfodi. Mae’r cytundeb hwn yn gwneud y daith honno’n symlach, yn fwy cydgysylltiedig ac yn fwy ymatebol. Drwy weithio’n agosach gyda’r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi, gallwn helpu i sicrhau bod pobl yn cyrraedd y lle iawn yn gynt a bod pryderon am asiantau gorfodi yn cael eu trin yn deg ac yn effeithiol.”
Chris Nichols, Prif Swyddog Gweithredol y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi:
“Mae’r cytundeb hwn yn nodi cam ymlaen cadarnhaol iawn i bobl sy’n profi camau gorfodi yng Nghymru. Bydd yn haws codi pryderon am arferion gwael a bydd yn sicrhau bod pobl yn cael ateb cyflym a phriodol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i sicrhau safonau uchel a chyson ar draws gweithgarwch gorfodi yng Nghymru.”