Roedd Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth, a gynlluniwyd i gryfhau a diogelu ein swyddfa at y dyfodol gyda chyfres o bwerau newydd — pwerau nad oedd mo’u tebyg gan unrhyw ombwdsmon arall yng ngwledydd Prydain ar y pryd. Bwriad y diwygio oedd gwneud ein swyddfa’n fwy rhagweithiol o ran nodi ac ymchwilio i broblemau mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn fwy effeithiol o ran siapio’r ffordd yr ymdrinnir â chwynion ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn fwy hygyrch i’r rhai a allai fod yn ei chael yn anodd cael clust i’w llais.
Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd gynnal adolygiad ôl-ddeddfwriaethol cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl 21 Mai 2024 (hynny yw, pum mlynedd ers i Ddeddf 2019 gael Cydsyniad Brenhinol). Lansiodd Pwyllgor Cyllid y Senedd yr adolygiad ym mis Ionawr eleni.
Heddiw, rydym yn cyflwyno ein hymateb i’r adolygiad hwnnw.
Mae ein hymateb yn defnyddio tystiolaeth gyfoethog ar effaith ein pwerau rhagweithiol i dderbyn cwynion ar wahân i rai ysgrifenedig; cynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun; a gosod safonau cwynion.
Er gwaethaf rhai heriau, rydym yn falch o’r ffordd rydym wedi defnyddio’r pwerau hyn hyd yn hyn.
Yn ein hymateb, cyflwynwn dystiolaeth o’r ffordd mae ein pwerau rhagweithiol wedi bod o fudd i ddefnyddwyr gwasanaethau, y cyhoedd yng Nghymru a darparwyr gwasanaethau fel ei gilydd. Mae Deddf 2019 wedi cryfhau ein gallu i ddiogelu a hyrwyddo tegwch mewn gwasanaethau cyhoeddus. Gyda chefnogaeth y pwerau rhagweithiol a roddwyd i ni, mae ein swyddfa yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arfer gorau ymhlith ombwdsmyn yng ngwledydd Prydain ac yn rhyngwladol.
Rydym hefyd yn manteisio ar y cyfle i wahodd y Pwyllgor i ystyried newidiadau i’n fframwaith deddfwriaethol a fyddai’n galluogi i wasanaethu pobl Cymru’n well. Mae hyn yn cynnwys:
- cael gwared ar y gwaharddiad statudol sy’n ein hatal rhag ystyried cwyn pan allai’r llysoedd ei hystyried
- dod â chwynion am benderfyniadau ysgolion a chyrff llywodraethu yng Nghymru i mewn i’n hawdurdodaeth
- symleiddio’r broses sydd ei hangen i lansio ymchwiliad ehangach ar ein liwt ein hunain
- ein galluogi i gyhoeddi argymhellion statudol ar draws sector, yn dilyn ymchwiliad ehangach ar ein liwt ein hunain.
Rydym yn edrych ymlaen at ymddangos gerbron y Pwyllgor ar 30 Ebrill i drafod ein tystiolaeth.
Ein hymateb i Adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019