Roedd ein Cynllun Cydraddoldeb blaenorol yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 2019 a 2022. Nododd 11 o Amcanion Cydraddoldeb, yn ymwneud â sut rydym yn darparu ein gwasanaeth cwynion, sut rydym yn ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb i’n gwaith gwella, a sut rydym yn gweithio fel cyflogwr. Yn 2020, datblygom hefyd ein Siarter Hil ac Ethnigrwydd yn y Gwaith. Yn 2022, gwnaethom ymestyn y Cynllun a’r Siarter am flwyddyn, wrth i ni ddechrau gweithio ar ein Cynllun strategol newydd sy’n gosod cyfeiriad y swyddfa ar gyfer 2023-2026.

Cwblhasom nifer o gamau gweithredu yr oeddem wedi ymrwymo iddynt o dan y Cynllun a’r Siarter. Fodd bynnag, ni chawsom yr effaith yr oeddem am ei chael ym mhob maes.

Datblygom ein Cynllun Cydraddoldeb i gefnogi’r gwaith o gyflawni ein Cynllun Strategol newydd 2023-2026 a’i genhadaeth: i gael effaith gadarnhaol ar bobl a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. O dan y Cynllun, byddwn yn:

  • Sicrhau ein bod yn cefnogi pobl ag anghenion mynediad ychwanegol i ddefnyddio ein gwasanaeth cwynion.
  • Helpu i wella ein gwasanaethau a’n heffaith trwy ymgysylltu’n well â grwpiau cydraddoldeb.
  • Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r swyddfa a’i rôl a’i phwerau ymhlith grwpiau targed.
  • Cynnal a datblygu gwybodaeth mwy hygyrch sy’n esbonio pwy ydym ni a sut rydym yn gweithio.
  • Trwy ein rôl Safonau Cwynion, ceisio dylanwadu yn gadarnhaol ar hygyrchedd prosesau cwynion lleol.
  • Gweithio i wella cynrychiolaeth grwpiau targed ledled ein gweithlu.
  • Parhau i fonitro’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau a nodi unrhyw
    gyfleodd i’w leihau ymhellach.

Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at greu’r Cynllun hwn ac edrychwn ymlaen at ei roi ar waith.

I ddarllen y Cynllun (hefyd fel Hawdd ei Ddeall) cliciwch yma.