Yn 2021/22, ystyriom 59 achos o’r fath. Mae’r detholiad yn y Coflyfr yn ymwneud ag iechyd yn bennaf ond mae sawl achos yn ymwneud â gofal cymdeithasol a thai.

Mae sawl achos yn y Coflyfr yn berthnasol i’r mesurau a gyflwynwyd i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn ystod pandemig COVID-19. Mae tri achos yn berthnasol i gymhwyso’r weithdrefn ‘Na cheisier dadebru cardio-anadlol’ (DNACPR) ac mae un yn ymwneud â’r rheolau ynghylch eithriadau gorchuddion wyneb.

Mae rhan fwyaf o’r achosion yn y Coflyfr yn ymwneud â materion hawliau dynol. Fodd bynnag, mae’r cyhoeddiad hefyd yn cynnwys sawl achos lle y gallai dyletswyddau cydraddoldeb fod wedi’u hymgysylltu. Mae’r rhain yn canolbwyntio yn bennaf ar sut mae darparwyr gwasanaethau cyhoeddus wedi ystyried addasiadau rhesymol i bobl anabl.

Dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

Mae hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yn fater i bawb.

Fel yr Ombwdsmon, ni chawn ddod i’r casgliad bod hawliau dynol rhywun wedi’u torri, neu eu bod wedi dioddef gwahaniaethu. Mater i’r llysoedd yw hynny. Fodd bynnag, mae materion fel hyn yn aml yn anwahanadwy oddi wrth bobl yn cael eu trin yn annheg ac yn dioddef anghyfiawnder. Felly, os gwelwn fod hawliau dynol neu hawliau cydraddoldeb rhywun yn berthnasol i’r achos, byddwn yn datgan hynny’n glir yn ein casgliadau a’n hargymhellion.

Rydym yn cyhoeddi’r Coflyfr hwn i godi ymwybyddiaeth o’n hymagwedd at faterion hawliau dynol a chydraddoldeb yn ein gwaith achos, ond hefyd er mwyn hyrwyddo gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus.  Gan hynny, cynhwyswn hefyd nifer o gwynion na wnaethom eu cadarnhau. Credwn fod hyn yn bwysig i esbonio ein hymagwedd at achosion o’r fath yn well, ynghyd â thynnu sylw at arfer gweinyddol cywir gan y cyrff yr ymchwiliwyd iddyn nhw.

Gwyddom fod trafodaeth barhaus ar lefel y DU am ddyfodol Deddf Hawliau Dynol 1998. Beth bynnag fydd canlyniad y trafodaethau hynny, rydym yn glir y byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i hyrwyddo ac amddiffyn hawliau dynol a hawliau cydraddoldeb y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Darllenwch y Coflyfr ar ein gwefan yma.