Ynglyn â’r rôl

Rhaid i chi fod yn ymroddedig i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o safon a gallu cefnogi a herio’r Ombwdsmon.

Dylech allu dangos tystiolaeth o’ch gallu i ddylanwadu ar sefydliadau, ac ymgysylltu â nhw, ar lefel uchel i hyrwyddo newid cadarnhaol.

Rhaid i chi feddu sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da a gallu dehongli data cymhleth.  Dylech fod â dealltwriaeth dda o sector cyhoeddus Cymru a byddai hefyd yn ddymunol pe bai gennych rywfaint o ddealltwriaeth o rôl yr Ombwdsmon.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gennych os oes gennych arbenigedd yn y meysydd canlynol:

  • gwasanaethau iechyd
  • seibrddiogelwch
  • TGCh – digidol
  • cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg a’r Panel yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn.  Telir cyfradd ddyddiol o £300 i Aelodau, gyda thâl ychwanegol ar gyfer hyfforddiant a fynychir y tu hwnt i ddyddiadau cyfarfodydd a drefnwyd.

Pan ydych yn ymgeisio, nodwch yn glir pa rôl sydd o ddiddordeb i chi.

Gwyliwch fideo ynglyn â’r rol yma.

Dyddiad cau

Rhaid i chi ymgeisio erbyn hanner dydd, 7 Tachwedd 2022.   Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau a fydd yn cael eu hanfon atom ar ôl y dyddiad hwn.

Ansicr a ddylech ymgeisio?

Byddwn yn cynnal sesiynau anffurfiol ar-lein i roi cyfle i chi ddeall yn well ein rôl a’n sefydliad ac a yw dod yn aelod annibynnol yn addas i chi.  I archebu, dilynwch y dolenni isod:

Yn ogystal, os hoffech gael sgwrs anffurfiol gyda’r Ombwdsmon ynglŷn â’r rôl, anfonwch ebost at: recriwtio@ombwdsmon.cymru neu ffoniwch 01656 644214 a byddwn yn cysylltu’n ôl gyda dyddiad ac amser addas.

 

Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am y rôl hon â’n proses recriwtio yn y Pecyn Recriwtio.