Roedd adroddiad yr Ombwdsmon yn ymwneud â chŵyn bod y Cynghorydd wedi’i chael yn euog o yrru dan ddylanwad cyffuriau ac nad oedd yn bwriadu ymddiswyddo fel Maer.

Daeth y Pwyllgor Safonau i’r casgliad bod y Cynghorydd wedi torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad – sef bod rhaid i aelodau beidio ag ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ei ystyried fel un sy’n dwyn anfri ar eu swydd neu eu hawdurdod.

Yn unol â hynny, penderfynodd y Pwyllgor Safonau y dylid atal y Cynghorydd am 2 fis a bod yn ofynnol iddi fynychu hyfforddiant Cod Ymddygiad o fewn 6 mis.

Nodiadau 

Mae’r Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn rhoi pwerau statudol i ni ymchwilio i honiadau bod aelodau o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi torri eu Cod Ymddygiad. Bwriad y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau etholedig yw cynnal safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus ac mae’n cynnwys y gofyniad na ddylai aelodau etholedig ddwyn anfri ar eu hawdurdod na’u swydd fel cynghorydd.

Pan fydd ein hymchwiliad yn canfod bod y dystiolaeth yn awgrymu bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad a bod angen cymryd camau pellach er budd y cyhoedd, gallwn gyfeirio’r mater naill ai at Banel Dyfarnu Cymru neu at Bwyllgor Safonau lleol i’w ystyried.

Pan fydd Panel Dyfarnu Cymru yn penderfynu bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad, gall atal aelod o’i swydd am hyd at 12 mis neu anghymhwyso’r aelod rhag dal swydd am hyd at 5 mlynedd.

Pan fydd Pwyllgor Safonau yn penderfynu bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad, gall atal aelod o’i swydd am hyd at 6 mis neu roi cerydd i’r aelod.  Pan na fydd aelod sy’n destun atgyfeiriad i bwyllgor safonau bellach yn dal swydd fel aelod, dim ond ceryddu’r aelod gall y Pwyllgor Safonau ei wneud.