Lansiodd yr Ombwdsmon ymchwiliad ar ôl derbyn cwyn gan Mr D am y gofal a’r driniaeth a gafodd yn Ysbyty Athrofaol Cymru pan drefnwyd iddo fynd i’r ysbyty ar gyfer llawdriniaeth i dynnu rhan dde o’i golon.

Cwynodd Mr D nad oedd wedi cael diagnosis clir o’i gyflwr a bod clinigwyr yn araf yn canfod iddo waedu ar ôl y llawdriniaeth a bod rhaid iddo gael llawdriniaeth frys ychwanegol.  Cwynodd Mr D hefyd nad oedd gwybodaeth am ei driniaeth a’i ofal yn cael ei chyfleu’n glir iddo er gwaethaf y ffaith bod ganddo Syndrom Asperger.  Yn olaf, cwynodd am agweddau ar ei ofal ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r ysbyty.

Canfu’r Ombwdsmon fod Mr D wedi cael llawdriniaeth yn seiliedig ar y rhagdybiaeth bod ganddo Glefyd Crohn.  Fodd bynnag, roedd canfyddiadau llawfeddygol diweddarach yn awgrymu bod ganddo lid cronig a chymhleth ar y pendics.  Serch hynny, ni fyddai’r naill gyflwr na’r llall yn peri bod angen y llawdriniaeth fawr a gafodd Mr D.  Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad hefyd nad oedd cofnod cyflawn o sut cafodd cyflwr Mr D ei fonitro yn dilyn ei lawdriniaeth ac y gellid bod wedi canfod yn gynt ei fod yn gwaedu ar ôl y llawdriniaeth.  At hynny, er bod clinigwyr yn ymwybodol bod gan Mr D Syndrom Asperger, nid oeddent yn llwyddo i gyfleu’n glir y wybodaeth am ei ddiagnosis a’i driniaeth iddo.  Yn olaf, canfu’r Ombwdsmon, er bod Mr D wedi gofyn am gael gweld clinigydd iechyd meddwl, ni chafodd hyn ei drefnu.  Fodd bynnag ym marn yr Ombwdsmon, nid oedd cyfiawnhad dros gŵyn Mr D am ei ofal ar ôl ei ryddhau.

Wrth gyflwyno sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett:

‘Mae’r achos anffodus hwn yn tynnu sylw unwaith eto at bwysigrwydd un o egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus a luniwyd gan Lywodraeth Cymru – ‘dim ond gwneud yr hyn sydd ei angen, a pheidio ag achosi niwed’.  Dylai’r meddygon a oedd yn gyfrifol am ofal Mr D fod wedi mabwysiadu dull o ‘gadw golwg a phwyllo’ oherwydd mae’n debyg y byddai ei gyflwr wedi setlo heb driniaeth lawfeddygol.  Yn hytrach, roedd Mr D, a oedd yn unigolyn bregus, wedi wynebu trawma y gellid bod wedi’i osgoi yn sgil llawdriniaeth ddiangen a chymhlethdodau ar ôl y driniaeth – trawma a arweiniodd at orfod ceisio cymorth iechyd meddwl.  Rhagwelaf y bydd fy nghanfyddiadau’n achosi poen meddwl sylweddol iddo.  Adlewyrchir hynny yn fy argymhellion yn yr achos hwn.’

Argymhellodd yr Ombwdsmon fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnig ymddiheuriad manwl a thaliad iawndal o £10,000 i Mr D.  Argymhellodd hefyd fod y meddygon a’r nyrsys a gyfrannodd at ofal Mr D yn cael hyfforddiant perthnasol ar reoli Clefyd Crohn a llid cronig y pendics yn ogystal â darparu a rheoli gofal i gleifion gyda Syndrom Asperger.  Argymhellodd yr Ombwdsmon hefyd y dylai’r tîm nyrsio ystyried pwysigrwydd cynnal a chofnodi arsylwadau ar ôl y llawdriniaeth a pharatoi cynlluniau gofal cywir a pherthnasol.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi derbyn canfyddiadau a chasgliadau adroddiad yr Ombwdsmon ac wedi cytuno i weithredu ei argymhellion.

I ddarllen yr adroddiad, ewch yma.