Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) yn ceisio barn ar ddiwygiadau arfaethedig i Ganllawiau’r Ombwdsmon ar arfer Gweinydd Da.

Y Canllawiau cyfredol yw’r Egwyddorion Gweinyddiaeth Dda a Rheoli Cofnodion yn Dda.  Bwriadwn rannu’r Canllawiau yn 2 gyhoeddiad ar wahân; yr “Egwyddorion Gweinyddu Da” a ”Rheoli Cofnodion yn Dda”.  Trwy rannu’r Canllawiau, ein nod yw darparu egwyddorion cyffredinol o ran arfer gweinyddu da a rhoi cyngor penodol ar wahân ar arfer gweinyddu da mewn perthynas â rheoli cofnodion i gyrff cyhoeddus ac achwynwyr.

Rydym yn gofyn am eich barn ar y ddau ganllaw arfaethedig.

Gellir cyrchu’r dogfennau ymgynghori a manylion ynghylch sut i ymateb yn y dolenni isod.

Byddwn yn cynnal meddygfa ar-lein i drafod y diwygiadau hyn â’n rhanddeiliaid Ddydd Gwener 15 Hydref 2021 am 2pm.  I gofrestru, anfonwch e-bost at cyfathrebu@ombwdsmon.cymru