Canfu ymchwiliad Ombwdsmon bod camweinyddu ar ran adran gynllunio Cyngor Sir y Fflint fel awdurdod cynllunio lleol (LPA) wedi achosi anghyfiawnder i’r achwynydd.

Canfu’r adroddiad nad oedd y datblygiad a gynigiwyd gan Dystysgrif Cyfreithlondeb Defnydd neu Ddatblygiad Arfaethedig (“tystysgrif a192” ar gyfer “anecs” yn cynnwys prif lety byw i’w adeiladu yn ardd yr eiddo drws nesaf) o fewn dosbarth lle nad oedd angen caniatâd cynllunio. Felly, nid oedd yn ddatblygiad cyfreithlon ac felly, ni ddylai’r cais fod wedi’i ganiatáu.

Pan wnaed cais ôl-weithredol i gadw’r datblygiad (nad oedd wedi’i adeiladu yn unol â’r dystysgrif a192), roedd bodolaeth y dystysgrif a192 wedi dylanwadu ar y swyddog cynllunio a chanfu’r Ombwdsmon ei bod yn annhebygol y byddai caniatâd wedi’i roi yn absenoldeb tystysgrif a192.

Bu camweinyddu, wrth roi’r dystysgrif a192 a’r cais ôl-weithredol.  Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.

Achosodd gweithredoedd yr LPA “anghyfiawnder sylweddol” i Ms N, sy’n byw drws nesaf.

Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Yn eu cyfanrwydd, mae’r methiannau a nodwyd gennyf yn golygu bod Ms N wedi dioddef colled sylweddol o ran ei phreifatrwydd yn ei chartref a’i gardd, sydd wedi effeithio ar ei mwynhad o’i chartref a’i gardd.

“Ar ben hynny, mae bodolaeth yr hyn sydd i bob pwrpas yn dŷ newydd wedi’i adeiladu yng ngardd y tŷ drws nesaf i’w heiddo yn debygol o fod wedi lleihau cymeriad a gwerth ei chartref. Achosodd y sefyllfa straen aruthrol iddi, ac ni allaf ond dod i’r casgliad bod hynny’n anghyfiawnder sylweddol i Ms N. ”

Mae’r Ombwdsmon wedi gwneud nifer o argymhellion gan gynnwys bod y Cyngor yn ymddiheuro i Ms N am y methiannau a nodwyd, a’u bod yn adolygu a chydymffurfiwyd â’r amodau sydd ynghlwm wrth y caniatâd ôl-weithredol.  Argymhellodd hefyd fod y cyngor yn cyfarwyddo’r Prisiwr Dosbarth i asesu effaith y datblygiad ar eiddo Ms N, a thalu’r gwahaniaeth i Ms N rhwng gwerth ei heiddo cyn ac ar ôl y datblygiad.

Mae’r Ombwdsmon yn siomedig nad yw’r Cyngor, hyd yma, wedi cytuno i dderbyn ei argymhellion.  Mae’r Ombwdsmon yn disgwyl clywed gan y Cyngor erbyn 28ain Mai mewn ymateb i’r adroddiad a’r argymhelliad.

I ddarllen yr adroddiad, cliciwch yma.