Gwnaeth Ms A (anhysbys) gŵyn i’r Ombwdsmon, am y gofal a dderbyniodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Roedd yn glaf dan orchymyn yng Nghymru o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ond symudodd yn ddiweddarach i ysbyty diogel yn Lloegr i fod yn nes at ei theulu ac i ganiatáu cam i lawr haws i’r gymuned lle’r oedd hi’n dymuno byw. Ariannodd y Bwrdd Iechyd yng Nghymru ei lleoliad mewn uned adsefydlu yn Lloegr.

Rhyddhawyd Ms A o fan cadw ym mis Mawrth 2016. Fodd bynnag, cytunodd i aros fel claf anffurfiol (gwirfoddol) yn yr uned adsefydlu nes bod ôl-ofal a llety byw lle ceir cefnogaeth yn cael eu rhoi ar waith.

Canfu’r Ombwdsmon bod hi wedi dod ar draws sefyllfa “Catch 22”. Ni fyddai’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC) yn Lloegr yn derbyn atgyfeiriad gan y Bwrdd Iechyd nes bod Ms A wedi cofrestru â Meddyg Teulu lleol, wedi’i rhyddhau o’r Ysbyty ac yn byw mewn cyfeiriad preswyl lleol. Fodd bynnag, ni fyddai’r darparwyr byw lle ceir cefnogaeth yn derbyn atgyfeiriad i asesu Ms A am leoliad heb fewnbwn TIMC lleol blaenorol.

O ganlyniad, arhosodd Ms A yn glaf mewnol yn yr Ysbyty am bron i flwyddyn ar ôl cael ei rhyddhau o fan cadw, ar ward adsefydlu gloëdig gyda chleifion dan orchymyn o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Yn yr amser hwnnw, dywedodd fod cleifion eraill wedi ymosod arni’n gorfforol.

Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i godi’r mater o ofal trawsffiniol.

 

Yn rhoi sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

 “Mae’n dorcalonnus iawn bod Ms A wedi cael ei siomi’n sylweddol gan wasanaethau iechyd ar adeg allweddol yn ei hadferiad iechyd meddwl. Arhosodd ar ward adsefydlu gloёdig gyda chleifion dan orchymyn pan ddylai wedi bod yn datblygu â’i hadferiad ac yn sefydlu ei hannibyniaeth. Parhaodd y sefyllfa annherbyniol am bron i flwyddyn.

“Cafodd ei thargedu gan gleifion eraill yn ystod ei harhosiad fel claf anffurfiol, ac yn anffodus, methodd y Bwrdd Iechyd â darparu amgylchedd diogel iddi hi yn ystod y cyfnod hwn. Credaf fod hawliau dynol Ms A wedi cael eu cyfaddawdu gan y methiannau a adnabuwyd.

“Rwy’n bryderus o’r sefyllfa “Catch-22” a’r materion systematig a adnabuwyd yn fy adroddiad. Rwyf wedi rhannu copi â Llywodraeth Cymru, fel y gall adolygu a oes angen gweithredu ar lefel Cymru Gyfan i wella trefniadau ar gyfer triniaeth iechyd meddwl trawsffiniol.”

Dywedodd Rob Behrens, Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd:

 Mae cadw rhywun dan orchymyn oherwydd rhesymau biwrocratiaeth yn doriad o hawliau dynol ac yn dangos diffyg gofal llwyr.

“Rhaid i’r GIG yng Nghymru a Lloegr gydweithio i greu canllawiau ar y cyd ar gefnogi cleifion iechyd meddwl bregus sy’n adleoli o un wlad i’r llall yn y DU, i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto.”

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cytuno i sawl argymhelliad, gan gynnwys darparu ymddiheuriad ysgrifenedig i Ms A am y methiannau a adnabuwyd.