Yn dilyn cwyn gan aelod agos o deulu Ms D (Dienw), canfu’r Ombwdsmon nad oedd asesiad galluedd ffurfiol wedi’i gynnal gan Gyngor Dinas Casnewydd am gyfnod o bron i bedair blynedd rhwng Medi 2013 ac Ebrill 2017.

Dylid cynnal asesiad galluedd pan fydd ymddygiad neu amgylchiadau person yn achosi amheuaeth ynghylch a oes ganddynt y gallu i wneud penderfyniad.

Methodd y Cyngor i weithredu er iddynt adnabod ar bum achlysur gwahanol fod Ms D, a oedd yn byw mewn llety cysgodol, yn fregus a ddim yn deall cyfrifiadau arian sylfaenol.

Canfu’r Ombwdsmon na wnaeth y Cyngor atgyfeiriad diogelu nac ymchwilio’r pryderon pan hysbyswyd y gallai Ms D fod wedi’i hecsbloetion gyllidol gan ddynion lleol.

Codwyd pryderon ei bod mewn perygl hefyd gan aelod o’r teulu a chyswllt proffesiynol a oedd yn rheoli ei chyllid, ond honnodd y cyngor y codwyd y pryderon i danseilio gallu Ms D yn unig. Ni ddarparwyd unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r farn honno, a chasglodd yr Ombwdsmon fod lles Ms D wrth wraidd eu pryderon.

Mae’r cyngor wedi cytuno i weithredu nifer o’r argymhellion, gan gynnwys gwneud taliad o swm cytunedig i Ms D am beidio ag asesu’n ddigonol ei hangen am fesurau diogelu cyllidol, a gwneud taliad pellach o £500 i’r aelod o’r teulu a wnaeth y gŵyn, i gydnabod y gofid a achoswyd gan ei fethiannau.

Yn rhoi sylw ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru:

“Rwyf yn bryderus iawn y gadawyd gwraig fregus mewn modd damweiniol i reoli ei chyllid ei hun a arweiniodd ati’n gwagio ei chyfrif banc gan filoedd o bunnoedd.

Gadawyd Ms D mewn perygl i ecsbloetiaeth am gyfnod arwyddocaol o amser a, er nad yw’n bosib dweud a chafodd ei gorfodi i roi arian i ffwrdd, ni ddylai fod wedi ei gadael mewn sefyllfa mor fregus.

Rwyf hefyd yn siomedig gan agwedd gyhuddgar y cyngor tuag y rhai sy’n agos i Ms D, a oedd, mewn gwirionedd, yn bryderus am ei lles.”