Rydym wedi cyhoeddi ystadegau heddiw ar gwynion a dderbyniwyd gan Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau, ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Mae’r data a gyhoeddir heddiw yn cwmpasu hanner cyntaf blwyddyn ariannol 2023/24.

 

 

Dengys y data bod Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yng Nghymru wedi derbyn ychydig llai na 10,000 o gwynion yn hanner cyntaf 23/24; mae hyn yn cyfateb i tua 6 cwyn am bob 1,000 o drigolion Cymru*. Mae nifer y cwynion hyn ychydig yn is na hanner cyntaf y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Mae cofnodion yn dangos bod 26% o’r cwynion a gofnodwyd gan Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yn ymwneud â Thriniaeth/Asesiad Glinigol, 21% yn ymwneud ag apwyntiadau, a 13% yn ymwneud â materion cyfathrebu.

Dengys y data bod tua 70% o gwynion wedi’u cau o fewn y targed o 30 diwrnod gwaith – mae hyn yn is na’r un cyfnod y llynedd, sy’n golygu bod achwynwyr i’w gweld yn aros yn hirach am ymateb gan Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau eleni.

Atgyfeiriwyd 483 o gwynion yn ymwneud â Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau atom yn y flwyddyn, sy’n cynrychioli tua 5% o’r holl gwynion a gaewyd yn yr un cyfnod – mae hyn bron yn union yr un fath â’r un cyfnod y llynedd.

Mae nifer y cwynion a atgyfeiriwyd yn rhoi cyd-destun i ddata cwynion Iechyd ac achosion am Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yr ydym wedi ymdrin â nhw.

Caeom 500 o gwynion am Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd yn hanner cyntaf 23/24. Byddai rhai o’r cwynion hynny wedi eu hatgyfeirio at y swyddfa yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.

Gwnaethom ymyrru mewn 30% o’r achosion hynny, drwy argymell Datrysiad Cynnar**, Setliad Gwirfoddol, neu gadarnhau cwyn ar ôl ymchwilio. Mae hyn yn gyson yn fras â blynyddoedd blaenorol.

 

Mae ein cyhoeddiad data yn dangos cynnydd mewn cwynion i Gynghorau

Rydym hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth am gwynion i Awdurdodau Lleol heddiw – gyda mwy na 9,000 o gwynion yn cael eu cofnodi gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn ystod hanner cyntaf 23/24, sy’n cyfateb i 6 cwyn am bob 1,000 o drigolion*. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o tua 1,500 o gwynion, neu 20% yn seiliedig ar yr un cyfnod y llynedd.

Deliwyd â thua 75% o gwynion o fewn yr amser targed – er bod Awdurdodau Lleol yn defnyddio targed byrrach o 20 diwrnod gwaith.  Mae’r perfformiad hwn yn debyg i flynyddoedd blaenorol.

Dengys cofnodion fod 34% o’r cwynion a gofnodwyd gan Awdurdodau Lleol yn ymwneud â gwastraff a sbwriel – thema sy’n parhau ers blynyddoedd blaenorol – roedd 17% yn ymwneud â thai, ac roedd 11% yn ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol. Cadarnhawyd 47% o’r holl gwynion gan Awdurdodau Lleol, sy’n gynnydd o 40% yn yr un cyfnod y llynedd.

Derbyniom 558 o gwynion am Awdurdodau Lleol yn hanner cyntaf 23/24, sy’n cynrychioli 6.25% o’r holl gwynion a gaewyd gan Awdurdodau Lleol yn yr un cyfnod.

Caeom 507 o gwynion am Awdurdodau Lleol yn hanner cyntaf 22/23. Byddai rhai o’r cwynion hynny wedi eu hatgyfeirio at y swyddfa yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.

Gwnaethom ymyrru mewn 17% o’r achosion hynny, drwy argymell Datrysiad Cynnar**, Setliad Gwirfoddol, neu gadarnhau cwyn ar ôl ymchwilio. Roedd mwyafrif helaeth yr achosion am Awdurdodau Lleol a gaewyd gennym yn hanner cyntaf 23/24 y tu hwnt i awdurdodaeth, neu wedi’u cau drwy ddatrysiad cynnar.

 

Dywedodd Michelle Morris, yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,

“Mae data eleni yn dangos thema barhaus ar gyfer rhywfaint o gwynion yng Nghymru – lle mae cwynion am apwyntiadau a’r driniaeth a gafodd pobl ym maes Iechyd, yn ogystal â chwynion am gasgliadau gwastraff a thai yn cael lle amlwg unwaith eto. Mae fy swyddfa wedi gweld y lefelau uchaf erioed o gwynion eleni, a byddwn yn parhau i ddarparu golwg annibynnol ar y cwynion hyn a, lle bo angen, byddwn yn gwneud argymhellion a gweithio gyda chyrff cyhoeddus ledled Cymru i sicrhau eu bod yn defnyddio’r cwynion a gânt i wella’r gwasanaethau y maent yn eu darparu”.

Dywedodd Matthew Harris, y Pennaeth Safonau Cwynion,

“Rydym bellach yn y drydedd flwyddyn o gyhoeddi data fel hyn, ac rwy’n credu ein bod yn dechrau gweld rhywfaint o’n gwaith Safonau Cwynion ar waith – yn enwedig mewn Awdurdodau Lleol. Mae Cynghorau yng Nghymru yn cofnodi 20% yn fwy o gwynion nawr nag yn y blynyddoedd diwethaf. Yr her i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yw sicrhau eu bod yn cofnodi’r holl gwynion a gânt, a sicrhau eu bod yn derbyn cwynion o bob rhan o gymdeithas – nid dim ond gan y rhai sydd fwyaf abl i gwyno”.

 

*Caiff y ffigur hwn ei addasu i allu cymharu â ffigurau blwyddyn gyfan

** Mewn rhai achosion, gallwn fod o’r farn bod camau y gallai’r sefydliad sy’n destun y cwyn eu cymryd yn gyflym i ddatrys cwyn. Yn yr achosion hyn, byddwn yn cysylltu â’r sefydliad dan sylw i egluro’r hyn y credwn y gellid ei wneud a cheisio ei gytundeb i fwrw ymlaen â hynny.

 

Gweler y data ynglyn â 2023/2024 isod.

*Chwyddwch allan ar eich porwr os na allwch weld y tabl llawn

Mae ein hadroddiadau Data Safonau Cwynion yn dangos gwybodaeth am gwynion ar gyfer cyrff cyhoeddus, ac OGCC, yn ystod y flwyddyn ariannol. Caiff yr adroddiadau eu diweddaru ddwywaith y flwyddyn. Gall unrhyw un at unrhyw ddibenion ddefnyddio a rhannu data Safonau Cwynion. Rydym yn sicrhau bod y data hwn ar gael i’r cyhoedd o dan y Drwydded Llywodraeth Agored i ddarparu tryloywder ynghylch cwynion sector cyhoeddus a gawn, a’r rhai y mae cyrff cyhoeddus o fewn awdurdodaeth yr Ombwdsmon yn ymdrin â nhw.

Wrth gyhoeddi’r wybodaeth hon, rydym wedi cymryd camau i sicrhau nad yw’n bosibl adnabod unrhyw unigolyn.

Gallwch weld rhagor o ddata ar achosion OGCC drwy ein tudalen Data Agored – Data Agored, ac yn ein hadroddiad blynyddol.