__________________________________________________________________________________________
Cyfarwyddwr Gweithredol, Adnoddau Corfforaethol
- Wedi’i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda threfniant gweithio hybrid
- Y cyflog presennol ar gyfer y rôl hon yw £105,579 ac mae Dyfarniad Cyflog yn yr arfaeth ar 1/4/25. Mae’n debygol y bydd hyn yn cynyddu’r cyflog i oddeutu £108,000.
__________________________________________________________________________________________
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“OGCC”) yn cyflawni rôl allweddol wrth wella gwasanaethau cyhoeddus a chynnal safonau ymddygiad o fewn llywodraeth leol ledled Cymru. Mae OGCC yn ymchwilio i gwynion yn ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a honiadau o dorri’r Cod Ymddygiad gan Gynghorwyr yng Nghymru, ac mae’n cynnal adolygiadau o fethiannau systemig ehangach, gan ddarparu argymhellion ar gyfer gwella. Mae’n sefydliad unigryw sy’n rhychwantu’r sector cyhoeddus datganoledig cyfan yng Nghymru, ac felly’n chwarae rôl arweiniol wrth sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru mor deg, tryloyw ac effeithiol â phosibl.
Gan gyflogi 80 o bobl, cafodd OGCC flwyddyn lwyddiannus iawn yn 2023/24, gan gau mwy o achosion nag erioed o’r blaen a thrin 10,000 o achosion. Er bod mwy o bobl nag erioed yn cysylltu â’r Ombwdsmon, mae’r swyddfa wedi cynnal ansawdd uchel eu gwaith, gyda 93% o adolygiadau’n canfod bod y penderfyniad gwreiddiol yn gywir. A hyn oll ar yr un pryd â chynnal boddhad staff mewnol, gyda 75% o staff yn cytuno bod OGCC yn lle da i weithio.
Mae OGCC bellach yn chwilio am Gyfarwyddwr Gweithredol, Adnoddau Corfforaethol a fydd yn adrodd i’r Ombwdsmon (fel y Swyddog Cyfrifyddu) ac yn gweithredu fel ei Brif Gynghorydd Ariannol. Fel un o ddau Gyfarwyddwr Gweithredol, bydd yr unigolyn yn cyflawni rôl allweddol o arwain y sefydliad a darparu cyfeiriad strategol yn ogystal â sicrhau bod OGCC yn weithle diogel a chynhwysol sy’n cael ei gynnal yn dda. Wrth edrych tuag allan, fel arweinydd gwaith gwella systemig ehangach OGCC, mae’r rôl hon hefyd yn cynnig cyfle cyffrous i weithiwr proffesiynol uchelgeisiol ddylanwadu ar ansawdd gwasanaethau cyhoeddus a bywyd yng Nghymru. Felly, mae’r sefydliad yn chwilio am feddyliwr strategol sy’n gallu datblygu a chefnogi timau uchel eu perfformiad ac sy’n frwdfrydig ynglŷn â darparu a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Efallai gweithiwr proffesiynol profiadol ym maes cyllid, neu unigolyn sydd wedi arwain y swyddogaeth gyllid yn rhan o bortffolio ehangach, bydd yr unigolyn yn cyfrannu profiad o weithio mewn amgylchedd rhanddeiliaid cymhleth a sbarduno newid yn yr amgylchedd hwn. Bydd yr unigolyn hwn, sy’n weithiwr proffesiynol o’r sector cyhoeddus neu’r trydydd sector, neu’n weithiwr proffesiynol o’r sector preifat sydd ag ethos gwasanaeth cyhoeddus, yn mwynhau cyfle gwych i helpu i ffurfio OGCC y dyfodol, gan arwain ar ddatblygu ei gynllun strategol newydd.
I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gweld y briff ymgeisydd, ewch i www.odgers.com/93078 neu cysylltwch â thîm Odgers yng Nghymru ar OdgersWalesPractice@odgers.com i gael sgwrs gyfrinachol.