Dyddiad ac amser cau’r ymgynghoriad: 6 Chwefror 2023, 23:59.

Trosolwg

Mae gennym y pŵer i gynnal ymchwiliadau ‘ar ei liwt ei hun’ pan fo tystiolaeth yn awgrymu methiant gwasanaeth systemig neu gamweinyddu. Bellach, rydym yn ystyried cynnal ymchwiliad o ran pa mor rhwydd yw hi i ofalwyr gael mynediad i’r isod, a’u heffeithiolrwydd:

  • asesiadau o anghenion gofalwyr
  • prosesau cwynion awdurdodau lleol ac iechyd.

Diben yr ymchwiliad fyddai nodi rhwystrau y mae gofalwyr yn eu gwynebu yn y meysydd penodol hyn.

Lle bo tystiolaeth, byddai’r ymchwiliad yn nodi argymhellion ar gyfer gwelliannau i sicrhau bod gofalwyr yn derbyn asesiadau o anghenion effeithiol ac amserol, a bod gofalwyr yn gallu ymgysylltu’n effeithiol â phrosesau cwynion awdurdodau lleol ac iechyd. Byddai’r ymchwiliad hefyd yn rhannu unrhyw arfer da a nodir i lywio gwelliant ledled gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Gwahoddwn sylwadau ac ymatebion ar yr ymchwiliad arfaethedig.

Dogfen ymgynghori

Gallwch ganfod manylion yr ymgynghoriad hwn yn y ddogfen ymgynghori isod:

  • PDF – cliciwch yma
  • Hawdd ei Ddarllen – cliciwch yma

Os oes angen y ddogfen hon arnoch ar ffurf wahanol, e-bostiwch liwteihun@ombwdsmon.cymru neu defnyddiwch un o’r opsiynau dan y pennawd ‘Sut i ymateb’ isod.

Sut i ymateb

Rhannwch eich barn â ni erbyn 23:59 ar 6 Chwefror 2023 drwy ddefnyddio unrhyw rai o’r dulliau isod:

  • Llenwch ein ffurflen ar-lein
  • E-bostiwch eich ymateb i liwteihun@ombwdsmon.cymru
  • Postiwch eich ymateb i: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ
  • Ffoniwch ni ar 01656 644238 a gofynnwch i gael siarad â’r Swyddog Ymchwiliadau Ar Liwt Ei Hun.