Ein nod yw darparu gwasanaeth Ombwdsmon o’r radd flaenaf i Gymru.

Rydym yn croesawu adborth ar eich profiad cadarnhaol o’n gwasanaeth.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd achlysuron pan fydd achwynwyr yn anhapus â’n penderfyniadau neu’r gwasanaeth yr ydym wedi’i ddarparu.

Y Broses Adolygu Achos – pan fyddwch yn anhapus â’n penderfyniad

Gallwch ofyn am adolygiad o’n penderfyniad i beidio ag ymchwilio i’ch cwyn, neu i derfynu ymchwiliad. Gallwch hefyd ofyn am adolygiad os ydych o’r farn bod ein penderfyniadau yn dilyn ymchwiliad yn rhai diffygiol.

Ni allwn adolygu penderfyniad dim ond am eich bod yn anghytuno ag ef.

I ni ystyried eich cais adolygu, rhaid i chi fod â thystiolaeth newydd, neu raid i chi allu dangos na wnaethom ystyried tystiolaeth benodol a oedd ar gael.

Dylech gyflwyno eich cais o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl y penderfyniad rydych chi am iddo gael ei adolygu.

Mae taflen ffeithiau am ein Proses Adolygu Achos ar gael ar ein tudalen Proses Adolygu Penderfyniad..

Y Broses Gwyno Amdanom Ni – pan fyddwch yn anhapus â’n gwasanaeth

Fel rhan o’m hymrwymiadau gwasanaeth, ein nod yw:

  • darparu proses hygyrch, syml, effeithiol a thryloyw ar gyfer ymchwilio i gwynion am y gwasanaeth a roddwn;
  • bodloni gofynion Safonau’r Gymraeg;
  • ymateb yn gyflym i gwynion am y gwasanaeth a ddarparwyd gennym; ac,
  • os ydym ar fai neu wedi rhoi gwasanaeth gwael, ymddiheuro a dysgu oddi wrth ein camgymeriadau.

Rydym am glywed eich sylwadau a’ch pryderon am y gwasanaeth rydym wedi’i ddarparu, gan gynnwys sylwadau neu bryderon am ein cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg.

Sut i ofyn am adolygiad achos neu sut i wneud sylw neu gwyno am ein gwasanaeth - Ffurflen Ar-lein

Nid ar gael Ar hyn o bryd

I wneud cais am adolygiad o benderfyniad rydym wedi’i wneud neu i wneud sylwadau neu gwyno am ein gwasanaeth (gan gynnwys sut rydym yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg) llenwch un o’r ffurflenni ar-lein isod.

Sut i ofyn am adolygiad achos neu sut i wneud sylw neu gwyno am ein gwasanaeth – Ffurflen PDF

Os yw’n well gennych gallwch lawrlwytho fersiwn PDF o’r ffurflen, a’i harbed i’ch cyfrifiadur. Gallwch lenwi’r ffurflen â llaw drwy ei hargraffu a’i hanfon wedi’i llenwi i’n cyfeiriad post, neu gallwch e-bostio’r ffurflen wedi’i llenwi i adborth@ombwdsmon.cymru

Mae gennym hefyd fersiynau PDF Hawdd eu deall o’r ffurflenni isod.