Rydym yn hapus i dderbyn ac ymateb i ohebiaeth yn y Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi. Mae ein holl ddogfennau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

 

Trosolwg

Gallwn ystyried cwynion:

  • am gyrff sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus,
  • am ddarparwyr gofal annibynnol, a
  • bod cynghorwyr lleol wedi torri’r Cod Ymddygiad.

Cwynion am ddarparwyr gwasanaeth

Am wybodaeth gyflym a rhwydd ynglŷn â’r hyn y gallwn a ni allwn ei wneud, gweler ein taflen yma.

 

 

 

I ddarllen mwy am yr hyn a wnawn pan dderbyniwn eich cwyn am ddarparwr gwasanaeth cyhoeddus, cliciwch yma.

I ddarllen mwy am yr hyn y gallwn ymchwilio iddo o ran darparwyr gofal annibynnol, cliciwch yma.

Mae gennym hefyd daflenni ffeithiau manwl sy’n esbonio’r hyn a allwn ac ni allwn ei wneud feswl pwnc y gwŷn. Gallwch eu canfod yma.

Barod i gwyno am ddarparwr gwasanaeth?

Gwnewch yn sicr eich bod chi’n darllen yr wybodaeth uchod.  Bydd yn eich helpu i ddeall y materion y gallwn a ni allwn edrych arnynt ac bydd yn esbonio ichi beth fydd yn digwydd i’ch cwyn. Gallwch hefyd ein ffonio am gyngor.

Os rydych yn penderfynu eich bod yn dymuno cwyno, gallwch:

Sicrhewch nad ydych yn plygu, yn styffylu na’n glynu gyda’i gilydd, unrhyw ddogfennau a anfonwch yn y post.

Mae rhagor o wybodaeth am ein proses ar gyfer derbyn cwynion dros y ffôn ar gael yma.

Gallwch lawrlwytho ac argraffu ein ffurflenni cwyno yma:

Bydd ein ffurflen cwyno ar-lein yn rhoi cymorth i chi adnabod y corff yr ydych yn dymuno cwyno yn ei erbyn. Os yw eich cwyn yn ymwneud â darparwr gofal annibynnol, gofynnwn i chi roi ei fanylion.

Os yr ydych yn penderfynu cwblhau’r ffurflen brintiedig, gwiriwch fod y sefydliad yr ydych eisiau cwyno amdano o’r math y gallwn edrych i mewn iddo (mae’r rhestr ar gael yma).

  • Os rydych yn dymuno gwyno ar ran rhywun arall, bydd rhaid i chi hefyd gwblhau ein Ffurflen Ganiatad.

Mae rhagor o ganllawiau ar sut i gyflwyno cwyn ar gael isod:


Cwynion am gynghorwyr lleol

Am wybodaeth gyflym a rhwydd ynglŷn â’r hyn y gallwn a ni allwn ei wneud, gweler ein taflen yma.

 

Mae rhagor o wybodaeth yn y taflenni ffeithiau hyn:

Mae gennym hefyd daflenni ffeithiau eraill sy’n esbonio ein proses a’r hyn a allwn ac ni allwn ei wneud. Gallwch eu canfod yma.

Barod i gwyno am gynghorydd lleol?

Gwnewch yn sicr eich bod chi’n darllen yr wybodaeth uchod.  Bydd yn eich helpu i ddeall y materion y gallwn a ni allwn edrych arnynt ac bydd yn esbonio ichi beth fydd yn digwydd i’ch cwyn. Gallwch hefyd ein ffonio am gyngor.

Os rydych yn penderfynu eich bod yn dymuno cwyno, gallwch:

  • gwblhau ein ffurflen gwyno ar-lein
  • anfon eich ffurflen gwyno atom ni: 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ.

Sicrhewch nad ydych yn plygu, yn styffylu na’n glynu gyda’i gilydd, unrhyw ddogfennau a anfonwch yn y post

Gallwch lawrlwytho ac argraffu ein ffurflen gwyno yma:

 


Sut byddwn yn cyfathrebu â chi

Yn unol â’n Safonau Gwasanaeth, ceisiwn cyfathrebu â chi’n effeithiol ar bob adeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma yn y daflen ffeithiau yma: Cyfathrebu am eich cwyn.

 


Helpwch ni i’ch helpu chi

Ar adegau anodd neu drafferthus, gall rhai pobl ymddwyn yn groes i’w cymeriad. Efallai y bu amgylchiadau trist neu ofidus yn arwain at y gŵyn. Ni ystyriwn ymddygiad fel un annerbyniol dim ond am fod rhywun yn rymus neu’n benderfynol.

Credwn y dylai pob achwynydd fod â’r hawl i gael eu clywed, eu deall a’u parchu. Fodd bynnag, mae’r un hawliau yn berthnasol i’n staff. Felly, disgwyliwn i chi fod yn gwrtais a foesgar wrth ymwneud â ni. Ni fyddem yn cydymddwyn ag ymddygiad ymosodol neu amharchus, nac orchmynion neu ddyfalbarhad afresymol.