1. Byddwn ni’n sicrhau bod ein gwasanaeth ar gael i bawb.

Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n gwneud y canlynol:

  •  Peidio â chodi ffi am ein gwasanaeth
  • Canolbwyntio ar y cwsmer
  • Deall eich anghenion
  •  Eich arwain chi drwy’r broses gwyno
  •  Eich cyfeirio at sefydliad arall a all eich helpu, os yw’n briodol

2. Byddwn ni’n cyfathrebu’n effeithiol â chi.

Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n gwneud y canlynol:

  •  Eich trin â chwrteisi, parch ac urddas
  •  Cyfathrebu â chi yn y ffordd a fyddai orau gennych os yw’n bosibl
  • Egluro beth yw ein rôl ni
  •  Dweud wrthych beth allwn ei wneud a beth na allwn ei wneud
  • Egluro ein proses ar gyfer trin cwynion
  •  Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am sefyllfa eich cwyn ac amserlenni
  •  Sicrhau eich bod yn cael manylion cyswllt yr aelod o staff sy’n delio â’ch cwyn
  • Darparu gwybodaeth gywir mewn iaith syml a chlir

3. Byddwn ni’n sicrhau y byddwch yn cael gwasanaeth proffesiynol gennym.

Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n gwneud y canlynol:

  •  Sicrhau fod staff yn meddu ar yr wybodaeth, yr hyfforddiant a’r sgiliau perthnasol i benderfynu ar gwynion, neu’n gallu troi at gyngor proffesiynol addas.
  • Delio â chwynion yn brydlon
  • Darparu ffyrdd o gywiro unrhyw nam a welwn
  •  Hyrwyddo dysgu a gwelliannau ar lefel ehangach
  •  Cadw cofnodion cywir a chadw data’n ddiogel
  •  Rhannu gwybodaeth yn briodol pan fo angen
  •  Dilyn ein prosesau ar gyfer ystyried cwynion sy’n cael eu gwneud amdanom ni, yn ogystal â chydnabod ac ymddiheuro am unrhyw gamgymeriadau a wnaed gennym
  •  Ceisio defnyddio adborth i wella ein gwasanaeth

4. Byddwn ni’n deg wrth ddelio â chi.

Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n gwneud y canlynol:

  • Cydweithio â chi heb unrhyw wahaniaethu na rhagfarn
  • Gwneud penderfyniadau ar sail y dystiolaeth berthnasol
  • Egluro’r rhesymau dros ein penderfyniadau
  • Egluro sut i herio ein penderfyniadau
  • Egluro sut byddwn ni’n delio ag ymddygiad annerbyniol

5. Byddwn ni’n gweithredu mewn modd tryloyw.

Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n gwneud y canlynol:

  •  Cyhoeddi manylion ein huwch aelodau staff a’r rheolau rydym yn eu dilyn
  •  Sefydlu gweithdrefnau i ddelio ag unrhyw wrthdaro buddiannau o ran trin cwynion
  •  Bod yn agored gyda chi am yr ymchwiliad
  •  Cyhoeddi’r gwersi a ddysgwyd o ganlyniad cwynion
  •  Darparu gwybodaeth am y ffordd rydym yn trin cwynion sy’n cael eu gwneud amdanom ni
  • Egluro i chi beth allwn ei wneud os na fydd y corff yn gweithredu ein hargymhellion

Yn y daflen ffeithiau hon, rydym yn esbonio sut byddwn yn cyfathrebu â chi yn unol â’n Safonau Gwasanaeth.