Derbyniais gŵyn gan Mr S ynghylch Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (“y Cyngor”). Mae Mr S yn berson sengl, anabl, ac mae’n byw gyda’i fam sy’n denant i’r cyngor. Oherwydd anawsterau symud, mae’n gaeth i ystafell wely yn yr eiddo yn gyffredinol. Dywedodd fod yr ystafell wely mewn cyflwr gwael, ac er gwaethaf cwyno am hynny ers cryn amser, ni wnaethpwyd unrhyw waith atgyweirio. Dywedodd Mr S nad yw tŷ cyngor ei fam wedi cael ei addasu ac nad yw’n addas ar gyfer ei anghenion. Cwynodd ei fod wedi gwneud cais am dŷ “… dros 10 mlynedd yn ôl”, ond eto mae cofnodion y Cyngor yn dangos mai ym mis Gorffennaf 2007 y gwnaeth ei gais cyntaf. Dywedodd Mr S, sy’n defnyddio cadair olwyn yn rheolaidd, ei fod wedi cael cynnig eiddo nad ydynt yn addas ar gyfer ei anghenion. Roedd yn credu bod y Cyngor wedi methu â bodloni ei gyfrifoldebau statudol, am nad oedd yn ymddangos fod ganddo “Restr Tai Pobl Anabl” ar wahân.
Canfu’r ymchwiliad dystiolaeth o fethiannau systematig yn agwedd y Cyngor o drin cais Mr S am dŷ. Methodd y Cyngor â dilyn y ddeddfwriaeth berthnasol, y canllawiau statudol a’i bolisïau a’i weithdrefnau ei hun ar sawl achlysur. Ychwanegodd cadw cofnodion gwael at y methiannau.
Argymhellaf y dylai’r Cyngor ymddiheuro i Mr S am y methiannau a nodwyd; talu £1500 iddo fel iawn; ac ailasesu ei gais am dŷ a’i statws digartrefedd yn drwyadl. Hefyd, argymhellaf y dylai’r Cyngor hyfforddi holl staff yr adran tai ar adnabod digartrefedd a gwybod pryd y dylid cychwyn ymholiadau. Dylai’r Cyngor ymddiheuro i Mrs G am yr oedi o ran delio â’r diffygion a sicrhau bod y gwaith atgyweirio yn yr eiddo wedi’i gwblhau erbyn hyn.
Argymhellaf, yn ogystal, y dylai’r Cyngor:
• adolygu gweithdrefnau’r Adran Tai i sicrhau eu bod yn adlewyrchu deddfwriaeth a chanllawiau statudol yn gyfan gwbl ac yn briodol;
• adolygu systemau’r Adran i sicrhau ei fod yn gallu cyfateb ceisiadau am dai gan bobl anabl yn effeithiol ac yn briodol ag eiddo addas;
• adolygu dulliau cadw cofnodion yr Adran, i sicrhau bod y cofnodion a gaiff eu cadw’n cydymffurfio â Deddf Diogelu Data; ac
• adolygu mecanweithiau cyfathrebu a rhannu gwybodaeth yr Adran, i sicrhau y gall y gwersi a ddysgwyd gyfrannu at welliannau yn y gwasanaeth a ddarperir.
Yn olaf, argymhellaf y dylai’r Cyngor ystyried mabwysiadu’r Polisi Cwynion Enghreifftiol a Chanllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2011