Cwynodd Mrs A am nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (“y Cyngor”), yn ei rôl fel yr awdurdod addysg lleol (“AALl”) wedi ystyried yn briodol, wedi asesu na chanfod anghenion addysgol arbennig (“AAA”) ei mab, B. Dywedodd Mrs A nad oedd yr AALl wedi ystyried a fyddai asesiad statudol wedi bod yn fwy priodol ar gyfer AAA B. Roedd Mrs A o’r farn nad oedd y Cytundeb Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy Estynedig (“ESAP”) a gyhoeddwyd gan yr AALl ar gyfer B wedi cael ei fonitro ac nad oedd yr AALl wedi sicrhau bod ei ysgol yn darparu’r cymorth a bennwyd o dan y Cytundeb hwnnw. Cwynodd Mrs A nad oedd y Cyngor wedi delio’n briodol â’i chŵyn am yr AALl.
Canfu’r ymchwiliad nad oedd cyfeiriad at Gytundebau ESAP, ac nad ydynt yn cael eu cydnabod, naill ai fel rhan o ddull graddoledig neu fel opsiwn heblaw asesiad statudol mewn unrhyw wybodaeth gan yr AALl, yn ei weithdrefnau nac yn ei bolisïau cyhoeddedig ar gyfer darpariaeth AAA. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd Cytundeb ESAP, yn hytrach nag asesiad statudol yn ddull dilys o ddiwallu AAA B. Roedd polisi’r AALl yn eglur pan oedd ymyriadau B yn yr ysgol yn annigonol i ddiwallu ei ofynion AAA, y dylid bod wedi ystyried asesiad statudol ar ei gyfer. Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus ynghylch defnydd yr AALl o Gytundebau ESAP fel opsiwn yn lle asesiad statudol.
Roedd yr AALl wedi dadlau bod Cytundeb ESAP B yn gyfystyr â Datganiad AAA ond canfu’r ymchwiliad nad oedd hyn yn wir. Hefyd, roedd y Cytundeb ESAP a gyhoeddwyd gan yr AALl yn weithredol am bythefnos yn unig yn ystod cyfnod pan oedd B yn treulio cryn dipyn yn llai o oriau yn yr ysgol. O ganlyniad nid oedd y ddarpariaeth ESAP yn cael ei chyflawni gan yr AALl.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mrs A a daeth i’r casgliad bod yr AALl wedi methu ag asesu a chanfod AAA B a’i fod wedi methu â darparu cymorth priodol i B i ddiwallu ei anghenion a oedd wedi’u canfod. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mrs A am y ffordd yr oedd y Cyngor wedi delio â’i chŵyn, er bod y Cyngor wedi hynny wedi cyflwyno newidiadau i’w drefn rheoli cwynion i osgoi sefyllfa o’r fath rhag digwydd eto.
Gwnaeth yr Ombwdsmon argymhelliad fod y Cyngor yn ymddiheuro i Mrs A ac yn talu iawndal o £350 iddi am yr amser a’r drafferth yr aeth iddo i gwyno. Argymhellwyd hefyd fod y Cyngor yn penodi ac yn cyfarwyddo arbenigwr addysgol annibynnol i adolygu darpariaeth addysgol i B; bod y Cyngor yn adolygu ei Bolisi AAA cyhoeddedig; a bod y Cyngor yn archwilio’r Trefniadau ESAP sydd ar waith ganddo ar hyn o bryd i ystyried a ddylid cynnal asesiadau statudol yn unol â’i Bolisi AAA.
Mae copi o’r adroddiad llawn ar gael isod.