Derbyniodd yr Ombwdsmon ddwy gŵyn ar wahân gan Mr F a Mrs B a gwynodd, y naill am y gofal a ddarparwyd i’w dad a’r llall am y gofal i’w gŵr, gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Cwynodd y ddau am yr amser a gymerodd i ambiwlans fod yn bresennol yn dilyn y galwadau 999 a wnaethant i’r gwasanaeth. Yr oeddynt hefyd yn cwyno am y ffordd y bu i’r Ymddiriedolaeth ymdrin â’u cwynion.
Canfu’r Ombwdsmon y gallai ambiwlansiau a cherbydau ymateb brys o adrannau eraill y gwasanaeth fod wedi cael eu hanfon i’r ddau ddigwyddiad, a gallent fod wedi cyrraedd y cleifion ynghynt, ond na feddyliwyd am eu hanfon. Yr oedd yr Ombwdsmon hefyd yn feirniadol o ansawdd ymchwiliadau’r Ymddiriedolaeth i gwynion Mr F a Mrs B, cynnwys ei ymatebion a’r amser a gymerwyd i’w darparu. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y ddwy gŵyn yn llawn. Gwnaeth gyfanswm o naw o argymhellion gan gynnwys bod yr Ymddiriedolaeth yn ymddiheuro i Mr F, Mrs B a’u teuluoedd a thalu iawndal priodol iddynt. Argymhellodd hefyd y dylai’r Ymddiriedolaeth ail-ymchwilio neu adolygu’r gŵyn wreiddiol; adolygu’r polisïau a’r gweithdrefnau perthnasol a’i reolaeth o adnoddau ac archwilio unrhyw newidiadau a roddwyd ar waith ganddo.