Dewis eich iaith
Cau

Cwynodd Mr Z i Gyngor Cymuned Llansannan (“y Cyngor”) ei atal rhag mynychu’r cyfarfodydd misol. Cwynodd ymhellach i’r Cyngor orffen darpariaeth o wasanaeth cyfieithu ar gyfer y cyfarfodydd cyn dweud wrtho na fyddai yn cael dod iddynt yn rhagor. Mae’r Cyngor yn ymwneud a’i fusnes drwy gyfrwng y Gymraeg un unig ac nid yw Mr Z yn deall Cymraeg.

Canfu’r ymchwiliad fod yna gamweinyddu yn y modd penderfynodd y Cyngor i atal Mr Z rhag mynychu cyfarfodydd. Nid oedd yna unrhyw gofnodion na nodyn ysgrifenedig o gyfarfod y Panel apêl yn lle y dywedwyd cymerwyd y penderfyniad. Ystyriodd yr Ombwdsmon hefyd nad oedd unrhyw sail dystiolaethol am y penderfyniad yn sgil yr hawl wedi’i fewnblannu yn statudol i aelodau’r cyhoedd allu fynychu cyfarfodydd cynghorau etholedig, ond iddynt beidio tarfu ar y cyfarfodydd (pan gellid gofyn i’r mynychwyr hynny i adael neu tynnu’n ȏl ar eu hawl i fynychu). Doedd dim tystiolaeth o unrhyw darfu pan fynychodd Mr Z; roedd y penderfyniad yn gwbl seiliedig ar ei ymddygiad mewn bywyd dyddiol tu allan i gyfarfodydd. Er nad yn cydoddef yr ymddygiad hwnnw, nid oedd sail i atal Mr Z rhag mynychu.

Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon y gall y Cyngor, fel y gwnaed, benderfynnu ymwneud a’i fusnes yn Gymraeg ond nid oedd yr Ombwdsmon wedi’i darbwyllo bod y Cyngor wedi arddangos sut y gallai sicrhau bod y cyhoedd di-Gymraeg yn medru cyfrannu at ei waith democrataidd (fel y nodwyd yng nghyfarwyddyd wedi’i ryddhau gan Lywodraeth Cymru). Hefyd, roedd y Cyngor wedi mabwysiadu Cynllun Iaith Cymraeg oedd yn dynodi y byddai yn trin y ddwy iaith yn gyfartal. Gallai ddim felly, yn wrthrychol, fod yn cyflawni hyn os nad oedd unrhyw ddarpariaeth i’r rhai oedd yn mynychu cyfarfodydd nad oeddent yn deall Cymraeg. Fel arall byddai aelodau’r etholaeth yn methu deall yr hyn a drafodwyd.

Gwnaeth yr Ombwdsmon yr argymhellion canlynol i’r Cyngor:

(i) I ymddiheuro i Mr Z am y gamweinyddiaeth ac o ganlyniad yr anghyfiawnder iddo am na allai fynychu’r cyfarfodydd misol.
(ii) I adolygu nifer o’i bolisïau yn cynnwys ei Reolau Sefydlog a’r Polisi Iaith Cymraeg i sicrhau mwy o eglurder ynglŷn â’i sefyllfa ar gyfieithu mewn cyfarfodydd busnes.
(iii) I sicrhau ei fod yn cofnodi’n ysgrifenedig unrhyw benderfyniad a gymerwyd yn unol â’i bolisïau a gweithdrefnau.

Mae copi o’r adroddiad llawn ar gael isod.