Cwynodd Mr D wrth yr Ombwdsmon am y modd y deliodd y Bwrdd Iechyd â’i gŵyn ynghylch y gofal a gafodd ei ddiweddar fam (“Mrs D”), o dan weithdrefn gwyno’r GIG. Roedd Mr D yn bryderus iawn ynghylch faint o amser a gymerodd y Bwrdd Iechyd i ymateb iddo ar ôl nodi i’r Bwrdd dorri ei ddyletswydd gofal tuag at ei fam ac o ran yr ymateb a gafodd gan y Bwrdd Iechyd hwnnw yn y pen draw.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cymryd gormod o amser i ymchwilio i’r mater o dan y trefniadau gwneud iawn perthnasol, ei fod wedi colli cofnodion Mrs D ac wedi methu â rhoi gwybod i Mr D, wrth gynnig setliad llawn a therfynol iddo, nad oedd y clinigwr, yr oedd y Bwrdd wedi dibynnu ar ei gyngor yn ei lythyr ymateb i Mr D, wedi gweld cofnodion Mrs D. Canfu’r Ombwdsmon fod yr oedi wrth ymdrin â’r iawndal ynghyd â’r diffyg tryloywder yn ymateb gwneud iawn y Bwrdd Iechyd i Mr D yn enghraifft o gamweinyddu clir a arweiniodd at anghyfiawnder i Mr D.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn gan argymell y dylai’r Bwrdd Iechyd:
a) Ymddiheuro wrth Mr D.
b) Rhoi iawndal o £2000 iddo am y trallod y byddai ef a Mrs D wedi’i brofi o ganlyniad i’r methiannau a nodwyd.
c) Rhoi iawndal o £500 i Mr D am ei amser ac am y drafferth o fynd ar drywydd y gŵyn am gyfnod hir.
d) Rhoi cyngor cyfreithiol am ddim i Mr D a threfnu bod cynghorydd clinigol annibynnol yn cael ei gyfarwyddo ar y cyd i ystyried a oedd Mrs D wedi dioddef niwed o ganlyniad i’r methiannau a nodwyd gan y Bwrdd Iechyd.
e) Os nad yw’n bosibl trefnu cyfarwyddyd o’r fath mewn da bryd, dylid talu £1500 o iawndal pellach i Mr D i adlewyrchu’r cyfle a gollwyd i rywun ystyried gofal ei fam yn briodol.
f) Sicrhau bod yr holl staff perthnasol yn cael eu hatgoffa’n ffurfiol o’u dyletswydd i fod yn agored ac yn dryloyw, bob amser, gyda chleifion a’u perthnasau.
Mae copi o’r adroddiad llawn ar gael isod.