Dewis eich iaith
Cau

Cwynodd Ms A at y Bwrdd Iechyd ym mis Mehefin 2014 ynghylch gofal offthalmig ei mab, ond nid oedd wedi cael ymateb i’r gŵyn. Cwynodd hi at yr Ombwdsmon ym mis Ionawr 2016, a gofyn iddo ymchwilio i sut wnaeth y Bwrdd Iechyd ymdrin â’i chwyn ac i sicrhau ymateb iddo. Yn unol â’i bwerau, fe wnaeth yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn (yn hytrach na chynnal ymchwiliad) ar sail cytundeb y Bwrdd Iechyd i nifer o weithrediadau, yn cynnwys ymddiheuriad, iawndal ariannol am yr oedi yn ymdrin â’r gŵyn a chadarnhad pa bryd y byddai’r ymateb ysgrifenedig yn cael ei danfon. Roedd y gweithrediadau hyn i’w gwblhau erbyn 15 Mawrth 2016.

Am ei fod yn anfodlon bod y Bwrdd Iechyd wedi cydymffurfio gyda’r argymhellion blaenorol, fe wnaeth yr Ombwdsmon alw ar ei bwerau i gyhoeddi adroddiad arbennig. Roedd hwn yn feirniadol o weithrediadau’r Bwrdd Iechyd yn y cyfamser ac o’i fethiant i weithredu’r argymhellion yr oedd wedi cytuno iddynt o’r blaen. Felly, fe wnaeth yr Ombwdsmon argymhellion pellach:

(a) Rhoi ymateb i’r gŵyn i Ms A heb unrhyw oedi pellach.

(b) Rhoi ymddiheuriad ychwanegol ysgrifenedig iddi am yr oedi parhad.

(c) Cynnig £100 o iawndal pellach i Ms A am yr oedi hwnnw.

(ch) Darparu copïau o’r llythyron i’r Ombwdsmon.

(d) Dylai’r Prif Weithredwr ymateb yn bersonol i’r Ombwdsmon ar ôl iddo adolygu’r adnoddau o fewn ei Dîm Pryderon, a’r gallu sydd gan y tîm i ddelio’n amserol gyda nifer y Cwynion y mae’n ei derbyn.

Mae copi o’r adroddiad llawn ar gael isod.