Dewis eich iaith
Cau

Cwynodd Mrs F am faterion yn ymwneud â thriniaeth ei merch yn un o ysbytai Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn 2011. Eglurodd bod ei merch, Miss F, yn dioddef o ffurf ddifrifol ar endometriosis, sy’n gyflwr gynecolegol. Dywed Mrs F bod yr ysbyty wedi camreoli’i gofal meddygol, wedi methu â’i chyfeirio ymlaen at ysbyty mwy arbenigol mewn ardal arall ac wedi camdrafod ei chwyn.

Dyfarnodd yr Ombwdsmon fod ei chwynion wedi’u cyfiawnhau. Nododd fod yr ysbyty wedi rhoi dwy lawdriniaeth i Miss F. Yr oedd yr ail lawdriniaeth wedi’i chynllunio’n wael ac roedd Miss F wedi cael ei pharatoi’n wael yn seicolegol ac yn gorfforol. Yn ogystal, dylai fod wedi cael ei chyfeirio at uned fwy arbenigol ar ôl y llawdriniaeth gyntaf. Fel y digwyddodd, rhoddwyd heibio’r ail lawdriniaeth heb lwyddiant a phenderfynodd clinigwyr ei chyfeirio at yr ysbyty arall. Casglodd yr Ombwdsmon bod yr ysbyty wedi chwarae rhan ym methiant y cyfeiriad ar y dechrau. Yn ogystal, beirniadodd y Bwrdd Iechyd ynghylch y modd yr ymdriniwyd â chwyn Mrs F.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Miss F a thalu £3250 iddi fel cydnabyddiaeth o’r anghyfiawnder a ddioddefodd oherwydd y methiannau a ganfuwyd. Yr oedd hyn yn cynnwys llawdriniaeth ddiangen. Gwnaeth nifer o argymhellion pellach gan gynnwys gwaith i sicrhau bod cleifion yn cael eu paratoi’n briodol ar gyfer llawdriniaethau gynecolegol, camau i atal y methiannau cynllunio yn achos Miss F rhag digwydd eto a gwella llwybrau cyfeirio. Derbyniodd y Bwrdd Iechyd argymhellion yr Ombwdsmon.