Cwynodd Mrs X am gyfathrebu gwael rhwng y Cyngor a thrigolion lleol. Dywedodd Mrs X fod y Cyngor yn cyhoeddi rhai hysbysiadau yn Gymraeg yn unig, ac roedd hi’n ddig fod hyn yn ei heithrio hi rhag ymwneud â’r Cyngor gan nad yw hi’n siarad Cymraeg. Pan oedd y Cyngor yn cyhoeddi agendâu yn Gymraeg yn unig, dywedodd fod pobl ddi-Gymraeg dan anfantais oherwydd nad oedden nhw’n gwybod beth fyddai’n cael ei drafod yn y cyfarfodydd hynny.
Roedd Mrs X hefyd o’r farn bod y ffaith fod cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig yn ei heithrio hi, gan na fyddai hi’n deall beth oedd yn cael ei drafod. Teimlai fod y ffordd mae’r Cyngor yn cynnal ei waith yn effeithio’n niweidiol ar ei gallu i gymryd rhan yn iawn mewn democratiaeth leol.
Roedd Mrs X o’r farn y dylai’r Cyngor sicrhau fod ei holl hysbysiadau a chyfarfodydd yn ddwyieithog, fel bod pawb yn gallu cymryd rhan a theimlo bod eu barn a’u pryderon mor ddilys â phawb arall.
Er fy mod yn derbyn yn llwyr ac yn cefnogi’r egwyddor fod gan y Cyngor yr hawl i gynnal ei fusnes drwy gyfrwng y Gymraeg, drwy bostio agendâu yn Gymraeg yn unig, canfûm fod y Cyngor wedi methu â gwneud darpariaeth ddwyieithog ysgrifenedig ddigonol ar gyfer Mrs X fel unigolyn sy’n deall Saesneg, ond nid y Gymraeg. Mae hynny’n gamweinyddu, a achosodd i
Mrs X ddioddef anghyfiawnder. Gan hynny, dyfernais fod cwyn Mr X wedi ei chadarnhau. Argymhellais:
(a) Bod y Cyngor yn ymddiheuro i Mrs X yn ysgrifenedig am fethu â gwneud darpariaeth ddwyieithog ysgrifenedig ddigonol ar ei chyfer.
(b) Bod y Cyngor yn ymrwymo i gyhoeddi’r holl agendâu’n ddwyieithog ac i wneud dogfennau eraill ar gael yn ddwyieithog (gan gynnwys cofnodion cyfarfodydd os nad oedden nhw ar gael yn ddwyieithog yn barod) os yw’n rhesymol ymarferol gwneud hynny.
Ni wnaeth y Cyngor dderbyn canfyddiadau’r adroddiad, gan wrthod gweithredu’r argymhellion a wnaed.
Roeddwn hefyd wedi argymell mewn drafft cynharach o’r adroddiad hwn y dylai’r Cyngor wneud taliad o £100 i Mrs X i gydnabod yr amser a dreuliodd a’r drafferth a achoswyd iddi wrth fynd ar drywydd ei chŵyn. Ar ôl gweld y drafft, dywedodd Mrs X nad oedd hi’n barod i dderbyn yr arian. Felly, ni ofynnais i’r Cyngor wneud taliad o’r fath i Mrs X, er fy mod o’r farn y byddai’n ei haeddu.
Mae copi o’r adroddiad llawn ar gael isod.