Cwynodd Mr G i’r Ombwdsmon am y modd yr oedd Cyngor Sir Y Fflint (“y Cyngor”) wedi awdurdodi symud a dinistrio ei gerbyd, a oedd wedi’i barcio mewn cilfach barcio tu allan i’w fflat. Dywedodd Mr G y cafodd y cerbyd, yr oedd yn ei adfer, ei symud heb rybudd a’i ddinistrio, a bod yr offer a chyfarpar wedi eu cynnwys yn y cerbyd, hefyd wedi eu dinistrio.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon, tra dywedodd swyddog y Cyngor nad oedd ymchwiliad o gronfa ddata cerbydau’r DVLA wedi adnabod ceidwad cofrestredig y cerbyd, nid oedd unrhyw dystiolaeth bod ymchwiliad o’r fath wedi’i gofnodi. Ni allai’r Cyngor ddarparu Ombwdsmon ychwaith â thystiolaeth i brofi y cyhoeddwyd Rhybudd Statudol yn hysbysu’r tirfeddiannwr o’i fwriad i symud y cerbyd. Ni allai’r Cyngor ddweud pryd y cyhoeddwyd y rhybudd statudol a chadarnhaodd y tirfeddiannwr na dderbyniodd y rhybudd statudol. Yn olaf, canfu’r ymchwiliad y dywedodd y Cyngor a’r datgymalwr cerbydau wrth Mr G, yn dilyn symud y cerbyd, bod y cerbyd wedi’i ddinistrio, er na gafodd ei ddinistrio nes bythefnos wedyn.

Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn gan nad oedd digon o dystiolaeth i brofi bod y cyngor wedi cymryd camau priodol i sefydlu fod cerbyd Mr G wedi ei adael. Methodd y cyngor i ddilyn y drefniadaeth statudol gywir wrth gyhoeddi rhybudd statudol o’i fwriad i symud a chael gwared â cherbyd Mr G.

Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn ac argymhellodd bod y Cyngor yn:

  • Ymddiheuro i Mr G am y diffygion a nodir yn yr adroddiad hwn a’i darparu ag iawndal o £2500 am golli ei gerbyd a’i gynnwys.
  • Darparu iawndal pellach o £250 am ei amser a’i drafferth o geisio esboniad gan y Cyngor o’r hyn a ddigwyddodd.

Yn ogystal, argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor adolygu a diwygio ei weithdrefnau o fewn ei wasanaethau, i sicrhau bod cofnodion addas yn cael eu creu a bod dogfennaeth yn cael eu cadw ar gyfer pob gweithgaredd sy’n ymwneud â symud a chael gwared â cherbydau o dan y rheoliadau statudol perthnasol.