Cwynodd Mr X fod Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (“SLC”) wedi methu â rhoi gwybod iddo nad oedd yn gymwys i gael cyllid ar gyfer benthyciad ffioedd dysgu ar gyfer y flwyddyn academaidd 2014-15 mewn modd rhesymol ac amserol.  Dywedodd fod SLC wedi gofyn iddo yn anghywir am dystiolaeth o’i amgylchiadau personol yn 2015-16 pan nad oedd yn gymwys i gyllid ychwanegol, ac na ddywedodd wrth Mr X mewn modd rhesymol ac amserol nad oedd ei sefyllfa yn caniatáu iddo gael cyllid.  Cwynodd Mr X hefyd na ddeliodd SLC â’i gŵyn mewn modd rhesymol ac amserol.

Canfu’r ymchwiliad fod yr SLC wedi methu â rhoi gwybod i Mr X nad oedd yn gymwys i gael benthyciad ffioedd dysgu ar gyfer 2014-15 mewn modd rhesymol.  Canfu y dylid fod wedi bod yn hysbys o fis Rhagfyr 2014 nad oedd Mr X yn gymwys i gael benthyciad, ond na chafodd hyn ei gyfathrebu yn iawn i Mr X tan ar ôl iddo fynd i ffioedd ar gyfer y flwyddyn academaidd lawn, gan ei adael mewn dyled sylweddol.  Canfu’r ymchwiliad hefyd fod yr SLC yn gwybod o fis Hydref 2015 na fyddai gan Mr X fyth hawl i gael cyllid ychwanegol oherwydd ei amgylchiadau personol yn 2015-16, ond bod yr SLC wedi parhau i ofyn am wybodaeth am amgylchiadau personol Mr X, a’i fod (ar gam) wedi caniatáu ei gais am gyllid ychwanegol, tan fis Chwefror 2017, bron i 19 mis yn ddiweddarach.  Achosodd hyn, ar ben y baich dyled yr oedd Mr X eisoes wedi mynd iddo, cryn straen arno.

Canfu’r ymchwiliad hefyd fod y broses gwyno wedi cymryd bron i 2 flynedd, y gellir priodoli cryn dipyn o’r amser i’r SLC ac Asesydd Annibynnol a benodwyd gan Lywodraeth Cymru.  Canfu hefyd fod proses ymdrin â chwynion yr SLC a Llywodraeth Cymru yn ddryslyd, gan nodi fod yr Asesydd Annibynnol wedi cwblhau adroddiad Cam Tri ar gyfer cwyn Mr X, ond yna bu rhaid iddi gyhoeddi atodiad i’r adroddiad ac ymddiheuriad am gyfeirio at Reoliadau anghywir.  Roedd hyn yn ingol ac yn ddryslyd i Mr X, a chododd ei ddisgwyliadau yn annheg fod ganddo hawl i gael cyllid, dim ond iddo gael ei siomi eto pan ddaeth y sefyllfa yn eglur.

Derbyniodd yr SLC ganfyddiadau’r ymchwiliad, a chytunodd i ymddiheuro i Mr X a thalu iawndal o £250 iddo am yr ymdriniaeth wael â’r gŵyn.  Cytunodd hefyd i dalu iawndal o £250 iddo am ei orfodi i gymryd rhan mewn gohebiaeth ddiangen ynghylch ei amgylchiadau personol pan roedd yn gwybod nad oedd ganddo hawl i gael cyllid.  Argymhellodd yr Ombwdsmon hefyd y dylai’r SLC fodloni’r ddyled yr oedd Mr X wedi mynd iddo i’w Brifysgol rhwng mis Rhagfyr 2014 a mis Mehefin 2015 (na chafodd ei gynghori yn iawn ynglŷn â’r sefyllfa), ac yn lle hynny, trefnu i Mr X dalu’r ddyled yn ôl i’r SLC ar yr amodau a thelerau arferol sy’n berthnasol pan roddir cyllid gan yr SLC.  Byddai hyn yn sicrhau na fydd Mr X mewn sefyllfa waeth nag y byddai wedi bod ynddi pe na bai’r methiannau wedi digwydd.

Dywedodd yr SLC ei fod eisoes wedi comisiynu adolygiad o’i brosesau ymdrin â chwynion, a’i fod yn y broses o weithio â gwahanol weinyddiaethau’r DU i weithredu newidiadau.  Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai, fel rhan o’r adolygiad o’i broses gwyno, ystyried y materion a godwyd gan y gŵyn hon.

Cytunodd Llywodraeth Cymru hefyd i weithio â’r SLC i adolygu’r broses ymdrin â chwynion sy’n berthnasol i fyfyrwyr yng Nghymru ac i weithio â swyddfa’r Ombwdsmon i sicrhau ei fod yn cydymffurfio ag Egwyddorion Ymdrin â Chwynion yn Dda ag unrhyw broses enghreifftiol o ymdrin â chwynion a gyhoeddir gan yr Ombwdsmon yn rhinwedd ei swydd fel yr Awdurdod Safonau Cwynion yng Nghymru.