Cwynodd Mrs A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf (“y Bwrdd Iechyd”) wedi rhyddhau ei merch, Ms B, o Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn rhy gyflym. Dywedodd fod Ms B, yn hynny o beth, wedi marw yn fuan ar ôl cael ei rhyddhau.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mrs A. Canfu nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi asesu cyflwr corfforol Ms B yn iawn cyn ei rhyddhau. Penderfynodd hefyd fod ymateb y Bwrdd Iechyd i bryderon Mrs A, ynghylch rhyddhau Ms B, yn annigonol ac yn gamarweiniol. Argymhellodd y dylai’r Bwrdd Iechyd wneud y canlynol:
(a) Ymddiheuro – Ysgrifennu at Mrs A i ymddiheuro am y methiannau a ganfuwyd.
(b) Iawndal – Talu swm tybiannol o £3000 i Mrs A i gydnabod y gofid a’r ansicrwydd sydd wedi’i achosi yn sgil y posibilrwydd y gallai Ms B fod wedi goroesi pe na bai’r methiannau clinigol a ganfuwyd wedi digwydd.
(c) Cynllun gweithredu – Paratoi cynllun gweithredu yn rhoi manylion am sut y bydd yn rhoi sylw i’r methiannau clinigol a ganfuwyd a phennu pa bryd y bydd yn cwblhau’r camau hyn.
(ch) Ymrwymiad – Rhoi ymrwymiad ysgrifenedig ffurfiol i’r Ombwdsmon yn cytuno i gydymffurfio â’i gynllun gweithredu.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai’n rhoi’r argymhellion hyn ar waith.
Mae copi o’r adroddiad llawn ar gael isod.