Dewis eich iaith
Cau

Cwynodd Mrs B am Fwrdd Iechyd Cwm Taf (“y Bwrdd Iechyd”) mewn perthynas â’r driniaeth a gafodd hi yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ym mis Gorffennaf 2011. Eglurodd Mrs B ei bod wedi syrthio i bwll ac wedi torri ei migwrn. Dywedodd y dylai’r Ysbyty fod wedi ei throsglwyddo ar frys i ganolfan arbenigol oherwydd yr amgylchiadau a difrifoldeb y torasgwrn. Ychwanegodd bod y driniaeth yr oedd hi wedi’i derbyn yn yr Ysbyty yn amhriodol ac wedi arwain at orfod torri rhan isaf ei choes i ffwrdd oherwydd yr oedi gyda’i throsglwyddo.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd trosglwyddo ar unwaith yn angenrheidiol. Fodd bynnag, oherwydd y posibilrwydd o haint o fath morol, daeth i’r casgliad y dylai’r Ysbyty fod wedi ceisio cyngor microbiolegol ar frys. Hefyd, canfu y dylid bod wedi ei throsglwyddo ar frys i ganolfan arbenigol, unwaith yr oedd y clwyf wedi’i heintio. Roedd gan yr Ombwdsmon bryderon hefyd am yr oruchwyliaeth ar y llawfeddygon iau a roddodd lawdriniaeth i Mrs B ar ei migwrn.

Argymhellodd yr Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd yn talu £3000 i Mrs B fel cydnabyddiaeth o’r anghyfiawnder a ddioddefodd oherwydd methiannau’r Bwrdd Iechyd. Gwnaeth amrywiaeth o argymhellion systematig hefyd, gan gynnwys gweithgareddau dadfriffio, cadw cofnodion a goruchwylio llawfeddygon iau. Derbyniodd y Bwrdd Iechyd ei argymhellion.