Dewis eich iaith
Cau

Cwynodd Mrs R i mi am y modd yr ymdriniodd cyn Ymddiriedolaeth GIG Pontypridd a Rhondda â chŵyn a wnaeth am y gofal a roddwyd i’w diweddar fam, Mrs T. Roedd Mrs R yn pryderu’n benodol ynghylch y modd yr oedd Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth wedi ymateb iddi pan gwynodd am y driniaeth a roddwyd i’w mam heb ddatgan bod y Prif Weithredwr yn briod â llawfeddyg ymgynghorol a oedd wedi bod yn gysylltiedig â’r digwyddiadau yr oedd wedi cwyno i’r Bwrdd Iechyd yn eu cylch.

Canfu fy ymchwiliad nad oedd y Prif Weithredwr wedi datgan y ffaith ei bod yn briod â’r Ymgynghorydd pan ymatebodd i gŵyn Mrs R. Daeth yn amlwg i mi hefyd bod yr Ymgynghorydd dan sylw wedi bod â chysylltiaid agos ag un o’r triniaethau llawfeddygol a roddwyd i Mrs T ac yr oedd Mrs R wedi cwyno amdani. Daeth yn amlwg i mi hefyd bod polisi’r cyn Ymddiriedolaeth yn datgan mai’r Prif Weithredwr ddylai ymateb i bob llythyr o gŵyn er ei bod yn amlwg bod darpariaethau ar waith i’r swyddogaeth hon gael ei chyflawni gan Ddirprwy Brif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth. Deuthum i’r casgliad bod methiant y Prif Weithredwr i ddatgan ei buddiant o ran yr Ymgynghorydd wedi arwain Mrs R i dybio bod hwn yn achos o wrthdrawiad buddiannau ac oherwydd hynny rwyf yn cadarnhau ei chŵyn. Wrth wneud hynny rwyf wedi pwysleisio na welais ddim tystiolaeth i awgrymu bod gan y Prif Weithredwr unrhyw ddylanwad dros gynnwys y llythyrau ymateb a anfonwyd at Mrs R.