Dewis eich iaith
Cau

Cwynodd Mr K fod Cartrefi Cymunedol Gwynedd (“CCG”), ei landlord, sef cymdeithas dai, wedi gwrthod yn annheg ei gais i addasu ei eiddo i osod cawod cerdded-i-mewn-iddi. Dywedodd fod CCG wedi derbyn bod angen yr addasiad arno, fel yr oedd dau asesiad therapi galwedigaethol wedi’i nodi.

Esboniodd Mr K fod CCG wedi gwrthod y cais yn bennaf oherwydd ei fod ef a Mrs K yn tanfeddiannu eu cartref, gan ei fod yn eiddo tair ystafell wely. Roedd wedi dweud bod llawer o deuluoedd yn disgwyl am gartrefi o’r fath. Roedd Mr K yn haeru bod penderfyniad CCG i wrthod y cais ac wedyn gwrthod ei apêl yn dangos bod ei bolisïau’n gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn ac anabl. Hefyd, teimlai bod y ffordd y deliodd CCG â’i apêl yn anghywir.

Dywedodd Mr K ei fod yn cael ei orfodi i symud o gartref lle roedd wedi byw ers 36 mlynedd yn erbyn ei ewyllys gan nad oedd yn gallu defnyddio cyfleusterau’r ystafell ymolchi yn iawn.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod CCG yn gyffredinol yn gweithredu polisïau rhesymol, a oedd yn cydymffurfio â deddfwriaeth ac yn ystyried y cydbwysedd rhwng defnydd darbodus o’i stoc dai a hawliau tenantiaid. Ond, dyfarnodd bod angen i CCG wneud mwy i ddarparu tystiolaeth yn ei fframwaith polisi am nifer y teuluoedd sy’n disgwyl am gartref teulu, ac am faint y maent yn gorfod aros.
Ond, yn achos Mr K, dyfarnodd yr Ombwdsmon fod CCG wedi camweinyddu wrth iddynt ddelio â’r cais a’r apêl. Canfu fod y penderfyniad cychwynnol i wrthod y cais wedi cael ei gymryd heb roi ystyriaeth ddyladwy i amgylchiadau Mr K. Wedyn, methodd y penderfyniad adeg yr apêl â nodi’r diffyg hwnnw. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd Mr K wedi cael gwrandawiad teg oherwydd y methiannau hyn. Roedd Mr K wedi dioddef anghyfiawnder yn y cyd-destun hwnnw. Dyfarnodd yr Ombwdsmon fod cwyn Mr K wedi’i chynnal. Argymhellodd fod CCG yn gwneud y canlynol:

(a) ymddiheuro wrth Mr K;
(b) talu £300 iddo;
(c) cynnig i Mr K bod ei gais yn cael ei ailystyried o’r newydd ac yn brydlon;
(d) adolygu ei Bolisi Addasiadau yng nghyswllt un agwedd ar ei eiriad;
(e) ystyried sut y gallai ymgorffori’r sail dystiolaethol o ran yr angen am gartrefi i deuluoedd yn y Polisi Addasiadau.
Derbyniodd CCG yr argymhellion hyn.