Dewis eich iaith
Cau

Cwynodd Mr Y am yr oedi gan y Cyngor cyn ymchwilio i’w bryderon am les ei ferch pedair blwydd oed, pan oedd yng ngofal ei mam.

Roedd ei bryderon yn ymwneud ag amodau byw’r teulu, y newid cyfeiriad mynych a honiadau o gam-drin cyffuriau. Roedd o’r farn bod rhai o’r sylwadau a wnaethpwyd gan weithiwr cymdeithasol yn ymwneud â chymryd cyffuriau a rhianta yn “amhriodol.”

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ymweld â’r cartref a’i fod wedi colli nifer o gyfleoedd i ymchwilio i bryderon Mr Y am amgylchiadau’r teulu, a oedd yn cynnwys nifer o ffactorau risg. Roedd yn hytrach wedi dibynnu ar wybodaeth gan yr ysgol, lle’r oedd ei ferch yn ddisgybl newydd. Nid oedd ychwaith wedi cynnal ymchwiliad priodol i atgyfeiriad a wnaethpwyd gan Dîm Gwasanaethau Cymdeithasol Plant Cyngor Sir o Loegr a oedd â phryderon tebyg i’r rhai a godwyd gan Mr Y ac a oedd wedi gofyn am “archwiliad lles brys.” Aeth sawl mis heibio cyn yr ymwelwyd â’r cartref ac ni wnaethpwyd hynny tan ar ôl atgyfeiriad gan yr heddlu yn dilyn cyrch i chwilio am gyffuriau. Ni chynhaliwyd asesiad o anghenion y plentyn cyn i’r plentyn adael ardal y Cyngor i ddychwelyd i ofal Mr Y.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd sylw yn ymwneud â chymryd cyffuriau a rhianta gan weithiwr cymdeithasol yn briodol o gofio’r diffyg ymchwilio a’r asesu a fu i amgylchiadau merch Mr Y. Nododd hefyd drefniadau gwael iawn y Cyngor i ddelio â chwynion a chanfu fod staff y Cyngor yn amddiffynnol ac nad oeddent yn wrthrychol wrth ddelio â sylwadau Mr Y. Methodd y Cyngor â delio â’r gŵyn o dan y gweithdrefnau Cwynion Plant fel y dylai fod wedi’i wneud, a chollwyd cyfle i ymchwilio i fethiannau gwasanaeth yn achos merch Mr Y.

Derbyniodd y Cyngor argymhellion yr Ombwdsmon i:

a) ymddiheuro i Mr Y a thalu £1,000 am yr ansicrwydd a achoswyd gan y diffyg asesu, ynghyd â’r “amser a’i drafferth” yr aeth iddo i gwyno;

b) trefnu archwiliad (i gael ei gynnal yn annibynnol ar y Cyngor) o atgyfeiriadau at ei Dimau Gwasanaethau Plant i adolygu priodoldeb a chysondeb ei ymatebion;

c) darparu hyfforddiant ar y Fframwaith ar gyfer Asesu Plant mewn Angen a’u Teuluoedd ar gyfer staff sy’n ymdrin ag atgyfeiriadau ac asesiadau;

d) adolygu ei drefniadau i ymdrin â chwynion gwasanaethau cymdeithasol, i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau diweddar;

e) darparu hyfforddiant ar ddelio â chwynion i’r staff hynny sy’n delio â chwynion sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau i blant.

Mae copi o’r adroddiad llawn ar gael isod.