Dewis eich iaith
Cau

Cwynodd Mr M fod y Cyngor wedi neilltuo eiddo ar ei gyfer yn 2008 gan ddatgan wedyn nad oedd modd ei addasu ar gyfer ei anghenion. Mae Mr M yn anabl ac mae’r Cyngor wedi bod yn gwbl ymwybodol o’i anghenion cyn neilltuo’r eiddo ar ei gyfer. Dywedodd y Cyngor wrth Mr M am wneud cais am gael symud i eiddo mwy addas ond nid oedd Mr M am symud eto gan ei fod ef a’i deulu wedi setlo yno.

Roedd Mr M wedi gofyn am addasiadau mewnol i’r eiddo (gosod lifft grisiau a chawod cerdded-i-mewn), a gwaith i wella’r mynediad allanol. Dywedodd y Cyngor nad oedd yr addasiadau allanol yn ymarferol bosibl ac na fyddai’n bodloni anghenion Mr M. Felly ni wnaeth dim addasiadau i’r eiddo am dros dair blynedd nes iddo ailasesu anghenion Mr M yn dilyn cwyn Mr M i swyddfa’r Ombwdsmon yn 2011. Cytunodd wedyn i gyflawni’r holl addasiadau y gofynnwyd amdanynt.

Canfu’r Ombwdsmon achos o gamweinyddu yn y broses neilltuo a thrwy gydol cais Mr M am addasiadau i’r eiddo. Ni wnaethpwyd dim asesiad therapi galwedigaethol i’r eiddo cyn ei neilltuo ar gyfer Mr M, nac asesiad llawn ychwaith o anghenion Mr M ar gyfer addasiadau gan naill ai therapydd galwedigaethol neu’r gwasanaethau cymdeithasol am dros dair blynedd ar ôl iddo symud i’r eiddo. Ymddengys nad oedd y Cyngor yn cydnabod ei ddyletswyddau gofal cymdeithasol statudol tuag at Mr M, na bod ei hawliau dynol wedi cael eu hystyried. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mr M a gwneud nifer o argymhellion gan gynnwys ymddiheuriad i Mr M a thaliad o £3000.