Dewis eich iaith
Cau

Fe wnaeth Mrs L gwyno wrth yr Ombwdsmon am y ffordd y gwnaeth Cyngor Caerdydd ymdrin ag achos a gyfeiriwyd at adran gwasanaethau cymdeithasol y Cyngor dan drefniadau Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POVA). Codwyd yr achos gan staff yr ysbyty pan gafodd gŵr Mrs L ei dderbyn i’r ysbyty, ac roedd yn ymwneud â phryderon ynglŷn â’r ffordd y caniatawyd iddo ddatblygu’r radd fwyaf difrifol o friw pwysau (pressure sore). Roedd Mr L yn dioddef o MS ac yn gaeth i’w wely, a chyn iddo gael ei dderbyn i’r ysbyty, roedd yn cael gofal gartref gan Mrs L a’i ofalwyr, ac roedd Nyrsys Ardal yn rheoli ei friwiau pwysau. Roedd Mrs L yn poeni bod y trefniadau POVA wedi methu ymchwilio i’r pryderon a fynegwyd ac wedi methu ymchwilio i anghysondebau yn y dystiolaeth a roddwyd gan nyrsys ardal mewn cyfarfodydd POVA. Roedd hi hefyd yn poeni am y ffordd roedd y Cyngor wedi ymdrin â’i chwyn am y mater.

Dyfarnodd yr Ombwdsmon fod y gŵyn wedi’i chyfiawnhau, gan gasglu na fu i’r cyfarfodydd POVA ystyried yr achos a gyfeiriwyd yn ddigonol, ac y dylid rhoi eu canfyddiadau o’r neilltu gan nad oedd modd eu cynnal. Dyfarnodd yr Ombwdsmon bod cwyn arall Mrs L wedi’i chyfiawnhau hefyd, sef y gŵyn ynglŷn â’r ffordd y gwnaeth y Cyngor ystyried cwyn Mrs L, o ran ei brydlondeb, ac o ran sylwedd ei ymateb. Fe wnaeth yr Ombwdsmon argymell y dylid talu iawndal i Mrs L i gydnabod yr amser a’r drafferth a dreuliodd wrth wneud ei chwyn. Gwnaeth nifer o argymhellion eraill i’r Cyngor hefyd; adolygiad i sicrhau nad oes unrhyw ddefnyddwyr gwasanaeth eraill mewn perygl; archwiliad o achosion a gyfeiriwyd a oedd yn cyhuddo staff y GIG o gam-drin neu esgeuluso er mwyn sicrhau yr ymdriniwyd â’r rhain yn briodol ac; ailystyried yr ymchwiliad gwreiddiol er mwyn cywiro’r cofnod a sicrhau y dysgwyd y gwersi perthnasol.