Cwynodd cyfreithwyr ar ran Mrs S fod Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi methu gweinyddu materion yng nghyswllt hawliad ei mam Mrs W am ofal iechyd parhaus yn briodol. Roedd Mrs W wedi bod mewn cartref nyrsio er 2022 ac roedd hi’n derbyn cyllid ar gyfer elfen nyrsio ei chostau. Gwerthwyd ei chartref i dalu am weddill elfen ffioedd ei chartref gofal.
Cyflwynodd y Cyfreithwyr dystiolaeth a oedd, yn eu tyb hwy, yn dangos bod oedi a chamgymeriad wedi digwydd wrth ddelio ag asesiadau Mrs W ar gyfer gofal iechyd parhaus ac nad oedd y Panel Adolygu Annibynnol ychwaith wedi delio â materion yn briodol. Roeddent yn honni bod y sefyllfa hon wedi arwain at anghyfiawnder i Mrs W ar ffurf oedi a cholled ariannol.
Canfu’r Ombwdsmon gamweinyddu arwyddocaol mewn dau asesiad a gyflawnwyd gan y Bwrdd a methiannau ar ran y Panel Adolygu Annibynnol, er bod yr ail asesiad, mewn gwirionedd, wedi canfod bod Mrs W yn gymwys i dderbyn gofal iechyd parhaus.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylid cyflwyno ei adroddiad at sylw’r Panel Adolygu Annibynnol, er mwyn ystyried pa hyfforddiant pellach yr oedd angen arno, ac y dylid cyflawni asesiad ôl-weithredol o anghenion Mrs W dan oruchwyliaeth unigolyn annibynnol i’w enwebu gan Lywodraeth Cymru. Argymhellodd hefyd y dylai’r Bwrdd adolygu ei weithdrefnau a chynnal adolygiad ôl-weithredol o bob achos y deliwyd ag ef yn yr un modd ag un Mrs W, o ran dyddiad dechrau cyllido. Roedd Mrs S i dderbyn taliad o £750 ac ymddiheuriad am y methiannau.
Tynnodd yr Ombwdsmon sylw Llywodraeth Cymru at ddiffyg canllawiau priodol ynglŷn â’r materion hyn, a chytunwyd y cyflwynid canllawiau o’r fath.
Penderfynodd yr Ombwdsmon bod yr achos yn codi materion a oedd er budd y cyhoedd.