Dewis eich iaith
Cau

Roedd Mr N yn blentyn oedd yn derbyn gofal gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (“y Cyngor”) ac wedi cael ei leoli â’i ofalwyr maeth blaenorol Mr a Mrs A pan oedd yn blentyn bach iawn. Roedd y lleoliad wedi para am flynyddoedd ond wedi chwalu yn 2014. Roedd Mr N yna wedi cysylltu â’r Cyngor i gael gwybodaeth bellach am gynilion a wnaeth Mr a Mrs A ar ei ran. Cwynodd Mr N:

• nad oedd y Cyngor wedi rheoli ei gynilion yn iawn ac yn unol â’i bolisi.
• bod rhai o’i gynilion wedi cael eu defnyddio, heb drafod y mater gyda fo, i dalu am dripiau y dylai fod wedi derbyn lwfans arbennig ar eu cyfer.
• bod y cynilion a dderbyniodd yn Ionawr 2015 yn llawer llai na’r hyn y credai y dylent fod.

Roedd fy ymchwiliad yn ymwneud â’r hyn a wnaeth y Cyngor, nid y rhieni maeth. Derbyniais dystiolaeth fod y Cyngor wedi bod yn anghyson ac afreolaidd yn y ffordd a gymhwysodd ei ganllawiau mewnol ar gyfer rhieni maeth yn ei Lawlyfr Maethu. Roedd yn gorfodi rhai o’i ganllawiau ond nid canllawiau eraill, fel cynilo ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Roedd hyn er gwaetha’r canllawiau rheoliadol sy’n nodi y disgwylir i rieni maeth, ymhlith materion eraill, weithredu o fewn y canllawiau yn y Llawlyfr Maethu.

Fel rhiant corfforaethol i blentyn sy’n derbyn gofal mae gan gyngor ddyletswydd i sicrhau bod cynilion a wneir ar ran y plentyn neu’r plant sy’n derbyn gofal (“LAC”) yn cael eu goruchwylio a’u monitro’n iawn. Fodd bynnag, yn achos Mr N, cefais fod y Cyngor wedi monitro ei gynilion yn anghyson ac annigonol. Fy nghasgliad oedd bod y methiannau gweinyddol hyn yn gyfystyr â chamweinyddu a derbyniais yr agwedd hon ar gŵyn Mr N.

Ni allai’r Cyngor ddarparu tystiolaeth i ddangos fod Mr N wedi cael gwybod nac ychwaith wedi cytuno i ddefnyddio ei gynilion i dalu am ddau drip a gostiodd £1100 i gyd. Cytunodd y Cyngor i dalu am un o’r tripiau mewn cyfarfod adolygu LAC yn 2014, ond newidiodd ei feddwl nes ymlaen heb roi
gwybod i Gadeirydd y cyfarfod adolygu. Unwaith eto cefais dystiolaeth o gamweinyddu a derbyniais yr agwedd hon ar gŵyn Mr N.

O ran y drydedd agwedd ar gŵyn Mr N, oherwydd nad oedd y Cyngor wedi cadw cofnodion digonol na chymryd llyfrau cynilo Mr N i’w feddiant i’w cadw’n ddiogel ar ddiwedd lleoliad maeth Mr N, roedd yn aneglur pam fod cynilion Mr N mor isel ag yr oeddent. Penderfynais fod y methiannau a arweiniodd at y sefyllfa’n gyfystyr â chamweinyddu a derbyniais yr agwedd hon ar gŵyn Mr N.

Deuthum i’r casgliad, o ganlyniad i gamweinyddu ar eu rhan, na allai’r Cyngor roi cyfrif digonol i Mr N am ei gynilion, oedd wedi achosi anghyfiawnder iddo. Roeddwn wedi cyfrifo ffigur iawndal priodol i Mr N. Heriodd y Cyngor y ffigur hwn ar y sail y byddai Mr N wedi cytuno i wariant arall o’i gynilion, heb dystiolaeth fod hynny wedi digwydd. Fy nhuedd felly yw rhoi mantais yr amheuon hyn i Mr N, y parti mwy bregus yn y mater.

Mae achos Mr N yn codi materion pwysig yng nghyswllt plant LAC a’u cynilion ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Bwriadaf felly rannu fy adroddiad gyda Llywodraeth Cymru.

Rwyf wedi gwneud yr argymhellion canlynol:

(a) Y dylai Prif Weithredwr y Cyngor ymddiheuro’n ysgrifenedig i Mr N.

(b) Y dylai’r Cyngor dalu £3,310 i Mr N.

(c) Y dylai’r Cyngor dalu £250 i Mr N i adlewyrchu’r diffygion yn y modd y cafodd y gŵyn ei thrin.

(ch) Y dylai’r Cyngor adolygu’r achos hwn o safbwynt trin cwynion a rhannu unrhyw wersi a ddysgwyd gyda fy swyddfa i.

(d) Y dylai’r Cyngor rannu copi o fy adroddiad â Phwyllgor y Cabinet ar Faterion Rhianta Corfforaethol a dylai ei Gadeirydd roi manylion i fy swyddfa am unrhyw gamau y bydd y Pwyllgor hwn yn eu cymryd o ganlyniad i’r achos hwn.

(dd) Y dylai Pwyllgor y Cabinet ar Faterion Rhianta Corfforaethol ystyried y trefniadau mwyaf priodol yn eu barn hwy o ran cynilion hirdymor ar gyfer plant LAC a’u hannog i gynilo o arian poced. Wrth wneud hynny, dylai’r Cyngor ystyried y pethau canlynol: ei ddyletswydd i weithredu fel rhiant corfforaethol i roi’r cychwyn gorau mewn bywyd i blant LAC, a chynlluniau cynilo awdurdod lleol eraill.

(e) Y dylai’r Cyngor gyflwyno i fy swyddfa ei gynigion a’i gynllun gweithredu ar gyfer adolygu achosion plant LAC a allai, fel Mr N, gael eu heffeithio mewn modd tebyg.

(f) Y dylai’r Cyngor adolygu ei drefniadau / gofynion presennol ar gyfer cynilion a gwariant ac ar gyfer gwirio, cadw a phasio cofnodion cynilion ymlaen ar ddiwedd lleoliad, gyda golwg ar gyflwyno canllawiau / gofynion cliriach.

(ff) Mewn cydweithrediad ag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, dylai’r Cyngor adolygu ei gytundeb rhieni maeth i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â gofynion Atodlen 5 i Reoliadau Gwasanaethau Maeth (Cymru) 2003.

Cytunodd y Cyngor i weithredu’r holl argymhellion ac eithrio argymhelliad (b), sef y taliad i Mr N. Roedd yn barod i wneud ad-daliad i Mr N am y ddau drip yr oedd ei gynilion wedi talu amdanynt.

Mae’n siomedig iawn bod y Cyngor hyd yma wedi gwrthod derbyn fy argymhellion yn llawn. Os yw’r Cyngor yn dal at ei safiad ac yn methu â chydymffurfio ag argymhelliad (b) yn llawn o fewn deufis i fy adroddiad (h.y. erbyn 21 Ionawr 2017), bydd yn rhaid i mi ystyried cyhoeddi adroddiad arbennig pellach yn erbyn y Cyngor o dan adran 22 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. Os bydd y Cyngor yn dal at ei benderfyniad ar ôl i Bwyllgor y Cabinet ar Faterion Rhianta Corfforaethol ystyried fy adroddiad, o gofio pa mor ddifrifol yw adroddiad arbennig adran 22, rwyf wedi argymell bod fy adroddiad hefyd yn cael ei rannu â holl aelodau etholedig y Cyngor.

Mae copi o’r adroddiad llawn ar gael isod.