Cwynodd Mr D ynghylch y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi iddo gael ei atgyfeirio at Wasanaeth Wroleg y Bwrdd Iechyd hwnnw. Cwynodd Mr D, a gafodd ddiagnosis o fath ymosodol o ganser y prostad wedi hynny, am oedi gormodol wrth:
• Gynnal ymchwiliadau diagnostig
• Amserlennu llawdriniaeth addas wedi iddo gael diagnosis
• Trefnu radiotherapi ar ôl y llawdriniaeth.
Cwynodd Mr D hefyd am nifer o fethiannau o ran cyfathrebu ac am y modd y bu i’r Bwrdd Iechyd ymdrin â’i gŵynion ynghylch y materion hyn.
Ni chanfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod o ran radiotherapi Mr D wedi’r llawdriniaeth, ond canfu fod gormod o oedi wedi bod wrth gynnal ymchwiliadau diagnostig ac wrth amserlennu llawdriniaeth Mr D. Bu i’r Ombwdsmon hefyd gadarnhau cŵyn Mr D am fethiannau o ran cyfathrebu a’r modd y bu i’r Bwrdd Iechyd ymdrin â’i gŵyn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon:
a) Y dylai’r Bwrdd Iechyd roi ymddiheuriad ysgrifenedig llawn i Mr D.
b) Y dylai’r Bwrdd Iechyd, er mwyn cydnabod y methiannau hyn a’r gofid a achoswyd i Mr D, wneud taliad o £3,500 iddo.
c) Y dylai’r Bwrdd Iechyd fynd ati ar frys i adolygu ei gapasiti i ddarparu neu i gomisiynu biopsïau templed o fewn 31 diwrnod o atgyfeirio.
ch) Y dylai’r Bwrdd Iechyd roi adroddiad i’r Ombwdsmon ar y modd y mae penderfyniadau a wneir mewn cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol (MDT) gofal canser yn cael eu cydlynu a’u lledaenu.
d) Y dylai’r Bwrdd Iechyd rannu’r adroddiad hwn â’r Tîm Pryderon a thynnu eu sylw at y methiannau a ganfuwyd o ran ymdrin â chŵynion.
dd) Y dylai’r Bwrdd Iechyd gynnal adolygiad manwl o’r modd y mae ei Wasanaeth Wroleg yn cydymffurfio â Chanllawiau Atgyfeirio Llywodraeth Cymru ar gyfer Canser a Amheuir. Dylai’r adolygiad hwn gyfeirio at:
• Gamau a gymerwyd er mwyn ymateb i’r galw cynyddol am radiotherapi.
• Camau a gymerwyd er mwyn lleihau’r ôl-groniad o ran y rhestrau aros am apwyntiadau dilynol Wroleg.
• Camau a gymerwyd i gynyddu’r gefnogaeth weinyddol ar gyfer Wrolegwyr Ymgynghorol.
• A yw atgyfeiriadau o dîm amlddisgyblaethol (MDT) Gogledd Cymru gyfan i Lannau Merswy wedi gwella llwybrau cleifion o ran trin canser wrolegol.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi’r argymhellion hyn ar waith.
Mae copi o’r adroddiad llawn ar gael isod.