Cwynodd Mr a Mrs Q am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd Mr Q pan oedd yn glaf yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam.
Ar ôl adolygu’r dystiolaeth, cefais nad oedd “Cofnod Rhoi Meddyginiaeth i Gleifion Mewnol” Mr Q wedi’i lenwi’n briodol ar 17 a 18 Mai 2011, pan oedd yn glaf yn Ysbyty Glan Clwyd. Felly, nid oedd yn glir a oedd Mr Q wedi cael ei feddyginiaeth ar gyfer clefyd Parkinson.
Mewn perthynas â rhyddhau Mr Q o Ysbyty Maelor Wrecsam ar 22 Mai 2011, cefais nad oedd y cofnodion meddygol ar gyfer y cyfnod hwn yn llwyr adlewyrchu ymddygiad pryderus ac anodd Mr Q, y camau y cymerodd staff i dawelu ei feddwl, unrhyw adolygiadau meddygol gan ddoctoriaid na’r angen i alw swyddog diogelwch. O ganlyniad, cafodd Mr Q ei ryddhau o’r ysbyty heb gael unrhyw asesiad, gan roi Mr a Mrs Q mewn sefyllfa fregus.
Yr wyf yn argymell bod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i Mr a Mrs Q am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad ac yn talu £750 iddynt i gydnabod methiant y gwasanaeth a’r amser a’r drafferth o gyflwyno eu cwyn i’r swyddfa hon. Yr wyf hefyd yn argymell bod y Bwrdd Iechyd yn:
• Adolygu “Cofnod Rhoi Meddyginiaeth i Gleifion Mewnol” Mr Q ar gyfer y cyfnod 17-18 Mai 2011, a ble bo hynny’n briodol, yn cynnwys dogfen “Llyfr Gwaith a Chymwyseddau Asesu Rheoli Meddyginiaeth” y Bwrdd Iechyd, yn unol â gweithdrefn y Bwrdd Iechyd.
• Adolygu cofnodion meddygol Mr Q ar gyfer y cyfnod 19-22 Mai 2011 a ble bo hynny’n briodol, yn cymryd camau yn unol â gweithdrefnau’r Bwrdd Iechyd.
• Atgoffa’r staff perthnasol y dylid llenwi “Ffurflen Cofnodi Digwyddiad” os bydd angen galw swyddog diogelwch unrhyw bryd.
• Tynnu sylw’r staff perthnasol at y protocol rhyddhau cleifion sydd wedi’i ddiweddaru, a chyflwyno sesiynau galw heibio ar gyfer rhyddhau cleifion yn yr Ail Ysbyty.
• Paratoi cynllun hyfforddi sy’n sicrhau y bydd yr holl staff perthnasol yn yr Ysbyty wedi cael hyfforddiant ar gadw cofnodion o fewn 12 mis.
Mae copi o’r adroddiad llawn ar gael isod.