Dewis eich iaith
Cau

Cwynodd Ms A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) wedi achosi oedi gyda dau o’i hapwyntiadau yn eu Clinig Adolygu Glawcoma (“y Clinig”), a hynny heb reswm digonol. Dywedodd fod yr oedi wedi achosi iddi fod ag angen triniaeth frys. Honnai iddi ddioddef colled arwyddocaol yn ei golwg yn ei llygad dde, a phrofi “trallod sylweddol” oherwydd yr oediadau hyn gyda’i hapwyntiadau. Dywedodd ei bod yn anfodlon ag ymateb y Bwrdd Iechyd i’w chwyn oherwydd iddynt gymryd gormod o amser yn darparu’r ymateb hwnnw, a bod y Bwrdd yn honni bod ei golwg “heb ei effeithio” gan yr oedi hwn yn ei hapwyntiadau.

Cefnogodd yr Ombwdsmon gŵyn Ms A. Roedd hi o’r farn bod y Bwrdd Iechyd wedi achosi oedi gydag apwyntiadau Clinig Ms A, a hynny heb reswm digonol, a’u bod wedi methu rheoli’n briodol y peryglon a wynebai oherwydd glawcoma. Roedd hi hefyd o’r farn eu bod wedi cymryd gormod o amser yn ymateb i gŵyn Ms A a’u bod wedi methu ei diweddaru ynglŷn â’r sefyllfa, na rheoli’r mater o rwymedigaeth cymhwyso mewn ffordd briodol. Roedd hi’n argymell y dylai’r Bwrdd Iechyd:

(a) Ymddiheuro – Ysgrifennu at Ms A yn ymddiheuro dros y methiannau a ddynodwyd.
(b) Rhwymedigaeth cymhwyso – Ysgrifennu at Ms A yn esbonio sut y daethant i’r casgliad nad oedd unrhyw rwymedigaeth cymhwyso yn berthnasol i’w hachos hi.
(c) Adolygu – Adolygu eu gwasanaethau offthalmeg gan gyfeirio at adroddiad ei hymchwiliad ac adroddiad “Sefyllfa Cefndir Asesu Argymhelliad” (SCAA / SBAR).
(ch) Adroddiad SCAA – Paratoi adroddiad SCAA / SBAR arall yn dilyn yr adolygiad hwn.

Roedd hi hefyd yn ystyried ei bod hi’n briodol argymell talu iawndal ariannol i Ms A. Fodd bynnag, ni wnaeth hi hynny gan nad oedd Ms A yn dymuno derbyn iawndal o’r fath. Cytunodd y Bwrdd Iechyd gydymffurfio â’r argymhellion a wnaed.

Mae copi o’r adroddiad llawn ar gael isod.