Dewis eich iaith
Cau

Mae’r gŵyn hon yn ymwneud â diffygion yn y gofal a’r driniaeth a roddwyd i Mr X yn Ysbyty Glan Clwyd. Ym mis Tachwedd 2000, cafodd Mr X ei bwl cyntaf o waedu o wythiennau chwyddedig yn ei gorn gwddf. Mae hwn yn un o gymhlethdodau sirosis, sy’n peryglu bywyd, lle mae meinwe greithiol nad yw’n gweithio yn ymddangos yn raddol yn lle meinwe iach yr iau. Clymwyd y gwythiennau i atal rhagor o waedu. Cynhaliwyd amryw o brofion dros y misoedd nesaf. Roedd y profion yn dangos yn glir fod Mr X yn dioddef o sirosis. Er gwaethaf hyn, ni roddwyd gwybod iddo am y diagnosis. Ni chafodd y cyngor angenrheidiol ynghylch ei ffordd o fyw chwaith. Ym mis Medi 2001, mae’n debyg fod yr ysbyty wedi trefnu apwyntiad dilynol iddo fel claf allanol, ond ni chafodd Mr X wybod am hyn. Roedd hyn yn golygu na chafodd Mr X unrhyw oruchwyliaeth feddygol am sawl blwyddyn, ac ni chafodd unrhyw wybodaeth am ei gyflwr. Fel y mae’n digwydd, mae’n debyg na fyddai hyn wedi gwneud fawr o wahaniaeth i sut datblygodd ei gyflwr.

Cafodd Mr X bwl arall o waedu ym mis Awst 2008. Unwaith eto, cafodd hyn ei drin yn llwyddiannus, er iddo fod yn wael iawn am beth amser. Y tro hwn, cafodd Mr X feddyginiaeth, a rhywfaint o gyngor angenrheidiol am ei ffordd o fyw, ond nid yr holl gyngor. Dechreuodd y Bwrdd Iechyd ymchwilio i’r hyn a oedd wedi achosi sirosis Mr X hefyd, ond rhoddodd y gorau cyn canfod beth oedd hynny. Ni chafodd Mr X wybod ei fod wedi cael ei eni â sirosis nes iddo ofyn am ail farn, a chael ail farn.

Yn 2010, dychwelodd Mr X i’r ysbyty sawl tro yn syth ar ôl ei gilydd. Roedd yn edrych yn wael iawn. Dangosodd profion gwaed fod ei iau yn methu. Er gwaethaf hyn, anfonodd yr ysbyty ef i ffwrdd, gan ei dderbyn o’r diwedd dri diwrnod ar ôl iddo ddychwelyd. Erbyn hynny, roedd iau Mr X yn methu ac roedd ganddo haint difrifol. Gwaethygodd Mr X yn gyflym, ac yn drist iawn, bu farw saith wythnos yn ddiweddarach, yn 30 oed

Petai wedi derbyn triniaeth dri diwrnod yn gynharach, dylai Mr X fod wedi gwella ar ôl yr haint, a byddai ganddo siawns o gael trawsblaniad iau. Gwrthodwyd y cyfle hwn iddo oroesi a ffynnu.

Dyfarnais fod y cwynion a gyflwynwyd i mi yn gyfiawn. Yn dilyn hynny, cytunodd y Bwrdd Iechyd i’m hargymhellion y byddai’n ysgrifennu at y teulu i gydnabod y methiannau a thalu iawndal ariannol i deulu Mr X; £5,000 am y methiannau a nodwyd yn y gofal a’r driniaeth a gafodd Mr X a £500 arall am ymdrin â chwynion yn wael. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i adolygu’r llwybr gofal a’i system apwyntiadau. Hefyd cytunodd y Meddyg Ymgynghorol a oedd yn gyfrifol am ofal Mr X y byddai’n ystyried y materion a godwyd yn yr ymchwiliad ac yn dysgu o’r rhain.

Mae copi o’r adroddiad llawn ar gael isod.