Cwynodd Ms A wrthyf am y driniaeth a’r gofal a gafodd ei mam, Mrs X, pan oedd yn byw yng Nghartref Gofal Blue House. Roedd Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan (“y BILl”) wedi contractio’r Cartref Gofal i ddarparu gofal i Mrs X ar ei ran.
Cwynodd Ms A am y camau a gymerodd AGGCC ar ôl ymchwilio i’w chwyn hefyd. Cwynodd yn benodol am fethiant AGGCC i gymryd camau gorfodi yn erbyn y Cartref Gofal, ac am iddynt ddweud bod cwyn Ms A wedi’i “datrys” yn yr adroddiad arolygu blynyddol, sylw a oedd yn gamarweiniol, ym marn Ms A.
Ar ôl adolygu’r holl wybodaeth a oedd ar gael, deuthum i’r casgliad fod Mrs X, a oedd yn glaf y BILl, wedi disgwyl derbyn pecyn gofal GIG a oedd yn bodloni ei holl anghenion mewn modd a fyddai’n hybu lles, annibyniaeth, ymreolaeth a hunan werth. Fodd bynnag, roedd y dystiolaeth a oedd ar gael yn awgrymu bod y gofal a ddarparwyd gan y Cartref Gofal ar ran y BILl wedi methu â bodloni’r disgwyliad hynny.
Lluniodd y BILl gontract â’r Cartref Gofal yn nodi y byddai’n monitro’r contract, a arweiniodd at arolygiad blynyddol gydag adroddiad. Yn fy marn i, nid oedd y monitro yn y Cartref Gofal yn effeithiol, ac nid oedd y darpariaethau yn y contract ynghylch ymdrin â chwynion yn bodloni gofynion Cwynion yn y GIG: Canllawiau ar Ymdrin â Chwynion yng Nghymru 2003. Cafodd cwyn Ms A am y BILl ei chyfiawnhau.
Mewn cysylltiad â chwynion Ms A am AGGCC, deuthum i’r casgliad bod y broses ymchwilio wedi bod mor gyfyngedig, fel na lwyddwyd i ganfod methiannau difrifol. Hefyd, deuthum i’r casgliad nad oedd proses gydymffurfio AGGCC yn ddigon cadarn yn yr achos hwn i sicrhau bod anghenion sylfaenol defnyddiwr gwasanaeth yn cael eu bodloni’n ddigonol. Yn ogystal, er gwaethaf y ffaith bod AGGCC wedi cydnabod ar adeg yr ymchwiliad ac ar adeg cyhoeddi adroddiad am yr ymchwiliad, nad oedd Ms A yn fodlon â’r canfyddiadau a’i bod yn bwriadu dilyn y mater ymhellach, defnyddiwyd y term “datrys” wrth ddisgrifio eich chwyn, ac roedd hyn yn anonest. Rwy’n cyfiawnhau’r rhan hon o’r gŵyn yn rhannol.
Argymhellodd yr Ombwdsmon bod y BILl ac AGGCC yn talu £500 a £250 i Mrs A yn y drefn honno i gydnabod methiannau’r gwasanaethau a nodir yn yr adroddiad hwn. Hefyd, fe wnaeth nifer o argymhellion systemig gan gynnwys adolygu polisïau a gweithdrefnau gofal sy’n cael ei gontractio.