Dewis eich iaith
Cau

Cwynodd Mr A y bu oedi o ran diagnosio a thrin dyraniad aortig Mrs A, a bod clinigwyr wedi methu â chyfathrebu â’r naill na’r llall ohonynt. Cwynodd Mr A hefyd ynghylch ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (“y BIP”) i’w lythyr cwyno.

Wedi adolygu’r holl wybodaeth, canfûm y bu oedi afresymol. Er eu bod yn ymwybodol o hanes meddygol Mrs A, a phryderon Mr A ei bod yn cael trawiad ar y galon, arhosodd Mrs A am o leiaf 35 munud cyn i brofion cychwynnol gael eu cynnal, gan gynnwys unrhyw fonitro ar y galon. Yn dilyn aros ymhellach, archwiliwyd Mrs A ac fe’i cyfeiriwyd at Gofrestrydd lle yr arhosodd am awr i gael ei gweld.

Mae’r nodiadau meddygol yn awgrymu, yn dilyn archwilio Mrs A bod y clinigwyr yn amau bod ganddi ddyraniad aortig, er nad oes tystiolaeth i awgrymu y rhannwyd y wybodaeth hon gyda Mr na Mrs A. Oherwydd natur ddifrifol y salwch hwn a’r gyfradd uchel o farwolaethau, byddai disgwyl i glinigwyr flaenoriaethu’r profion i ddiagnosio’r cyflwr hwn. Fodd bynnag, yn achos Mrs A methodd y clinigwyr â gwneud hyn, yn lle hynny gwnaed profion ar gyfer “profi” cyflyrau mwy cyffredin eraill yn hytrach na “gwrthbrofi” dyraniad aortig. Yn drist iawn, bu farw Mrs A yn fuan ar ôl cael diagnosis.

Yn olaf, canfûm fod y BIP wedi methu ag ymateb i lythyr cwyn Mr A yn unol â’i weithdrefn. Canfûm hefyd nad oedd tystiolaeth bod gwersi wedi eu dysgu ac y cymerwyd camau i atal hyn rhag digwydd eto.

Dyfarnais fod y gŵyn wedi’i chyfiawnhau, gan argymell y dylai’r BIP ymddiheuro a thalu’r swm o £5000 i Mr A, a phlant Mrs A. Argymhellais hefyd y dylid atgoffa’r staff perthnasol o bwysigrwydd cyfathrebu gyda chleifion a pherthnasau, ac y dylid atgoffa’r rhai sy’n ymdrin â chwynion o’r gofynion a nodir ym mholisïau a gweithdrefnau cwyno dros dro’r BIP. I derfynu, argymhellais fod y BIP yn rhoi llwybr ar waith ar gyfer trin cleifion sy’n dod i’r Uned Asesu Llawfeddygol gydag amheuaeth o ddyraniad aortig.