Cwynodd Mrs D am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar fam, Mrs M pan dderbyniwyd hi i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Tywysoges Cymru yng Ngorffennaf 2010. Dywedodd Mrs D nad oedd y nyrs brysbennu wedi gweinyddu’r driniaeth oedd ei hangen ar gyflwr ei mam. Roedd pryderon hefyd ynghylch ei thriniaeth wedi hynny, ac yn benodol sut y rheolwyd trafodaethau ynghylch y gofyniad i ddadebru, pe byddai hynny’n angenrheidiol.
Yr oedd Mrs D o’r farn eu bod yn gadael i’w mam farw heb ymyrraeth feddygol briodol ar y dechrau, ac y bu i’r diffyg ymyrraeth arwain at ei marwolaeth rai dyddiau’n ddiweddarach.
Yr oedd cynghorwyr clinigol yr Ombwdsmon yn hynod feirniadol o fethiant y staff i ymdrin â chyflwr Mrs M pan gyrhaeddodd. Ni allent ganfod unrhyw dystiolaeth o ymyrraeth briodol fel sy’n ofynnol drwy weithdrefnau megis staff nyrsio yn galw meddyg. Bu oedi hefyd o ran gosod canwla ym Mrs M ac o ran gweinyddu meddyginiaeth briodol i’w hanghenion iechyd. Ni allent, fodd bynnag, nodi tystiolaeth fod y methiant o ran ymyrraeth gynnar wedi cyfrannu at farwolaeth Mrs M.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd ymddiheuro i’r teulu am y methiannau yn yr adroddiad, gan wneud taliad o £1,000 ac adolygu ei weithdrefnau a chymhwysedd proffesiynol a hyfforddiant y staff nyrsio a oedd yn gysylltiedig â derbyn Mrs M. Derbyniodd y Bwrdd yr argymhellion.
Mae copi o’r adroddiad llawn ar gael isod.